Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cadarnhau na fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bellach o dan fesurau arbennig.

Ar ôl bod dan fesurau arbennig ers 2015, bydd y Bwrdd Iechyd nawr yn destun ymyrraeth wedi’i thargedu.

“Rydym wedi gweld gwelliannau ar draws y bwrdd iechyd ac mae gennym fwy o ffydd y bydd yn gwneud rhagor o gynnydd,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething.

“Trwy gydol y pandemig, mae’r sefydliad wedi gweithio’n galed i wneud ei ran i ofalu am bobol y mae’r feirws wedi effeithio arnyn nhw.

“Ar adeg gythryblus ym maes iechyd y cyhoedd drwy’r byd, rwy’n falch o gyhoeddi’r newyddion cadarnhaol hwn ar gyfer y gogledd ac ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Cymru.”

Er bod pethau wedi gwella, mae rhai meysydd yn bryder o hyd ac mae’r bwrdd iechyd wedi cydnabod fod gwaith pellach i’w wneud

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £82m y flwyddyn yn ychwanegol dros gyfnod o dair blynedd a hanner i gefnogi’r bwrdd iechyd.

“Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn cael ei ddefnyddio i wella gofal heb ei drefnu; i ddatblygu gofal wedi’i drefnu sy’n gynaliadwy, gan gynnwys orthopedeg; ac i gyflawni gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl,” ychwanegodd Vaughan Gething.

Croeso gofalus

Mae Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi rhoi croeso gofalus i’r cyhoeddiad.

“Ar ôl pum mlynedd o fesurau arbennig – yr hiraf o unrhyw sefydliad iechyd yn y Deyrnas Unedig – rhaid croesawu unrhyw gynnydd gwirioneddol,” meddai.

“Fodd bynnag, mae pryderon ynghylch darparu gwasanaethau i bobol gogledd Cymru’r un mor berthnasol heddiw â phan ddechreuodd y bwrdd iechyd fesurau arbennig.

“Dw i wedi clywed am adferiad gwyrthiol, ond nid fel hyn, nid pan fo gwasanaethau wedi bod mor ddrwg cyhyd.

“Gobeithio nad tric yw hwn cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai, ac mai cam gwirioneddol tuag at droi’r sefydliad yn ddarparwr gofal iechyd o’r radd flaenaf yw hyn.”