Mae Mark Drakeford yn dweud y bydd yn rhaid i unrhyw ryddid ychwanegol y bydd pobol yn ei gael dros y Nadolig gael ei ddefnyddio’n “gyfrifol”.
Daw rhybudd y Prif Weinidog wrth iddo ddweud wrth Senedd Cymru fod rhai o’r enillion a ddaeth yn sgil y cloi dros dro “eisoes yn cael eu gwrthdroi”.
Yn ystod sesiwn Holi’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 24), gofynnodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, pa reolau fydd mewn grym yn ystod gwyliau’r Nadolig.
Roedd hefyd yn awgrymu cynnal ymgyrch hysbysebu yn “annog pobol i ddilyn y canllawiau fel ein bod i gyd yn gallu mwynhau 2021 gwell”.
“Dw i’n cytuno gyda’r pwynt mae Adam Price yn ei wneud bod yn rhaid defnyddio unrhyw ryddid ychwanegol sy’n cael ei gynnig mewn modd cyfrifol,” meddai Mark Drakeford.
“Dyw’r ffaith ein bod ni’n gallu llacio’r rheolau rhyw gymaint ddim yn wahoddiad i dreulio’r holl gyfnod yn gwneud pethau sy’n peri risg.”
Rhybuddiodd y gallai llacio’r rheolau “arwain at ledaeniad pellach o’r haint.”
Cyfarfod Cobra, ond dim Boris Johnson
Dywedodd Mark Drakeford wrth y Senedd na fydd Boris Johnson yn mynychu’r cyfarfod Cobra y prynhawn yma (dydd Mawrth, Tachwedd 24).
Bydd y cyfarfod yn penderfynu ar y cyfyngiadau i’r Deyrnas Unedig gyfan dros gyfnod y Nadolig.
Yn ei absenoldeb, bydd y cyfarfod yn cael ei gadeirio gan Michael Gove.
“Bydd yno gyfarfod Cobra wedyn er mwyn gweithio tuag at strategaeth pedair gwlad at y Nadolig, ac rwy’n obeithiol y byddwn yn gallu gwneud rhagor o gynnydd,” meddai Mark Drakeford.
“Byddech chi wedi meddwl, o ystyried arwyddocâd y penderfyniad rydyn yn ei wneud yn y cyfarfod, y byddai Mr Johnson wedi dewis bod yn bresennol.”
Dywedodd Mark Drakeford hefyd y bydd yn annog Llywodraeth Prydain i gefnu ar eu cynlluniau i rewi cyflogau gweithwyr y sector gyhoeddus – rhywbeth y mae’r Canghellor Rishi Sunak yn ei ystyried, yn ôl adroddiadau.
Y Ceidwadwyr yn galw am gefnogaeth i fusnesau
Gofynnodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr, a fydd cyfyngiadau llymach yn cael eu cyflwyno cyn y Nadolig, gan alw am gefnogaeth i fusnesau allu “cynllunio ac addasu”.
Dywedodd ei bod yn “angenrheidiol bod adnoddau a chefnogaeth ar gael cyn unrhyw newidiadau fel bod busnesau yn gallu cynllunio ac addasu”.
“Dw i’n ymwybodol iawn o’r effaith mae ein penderfyniadau yn cael ar fusnesau a bywoliaethau yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi swm mawr iawn o arian er mwyn gwarchod busnesau yng Nghymru rhag effaith y coronafeirws.
“Mae hyn yn llawer iawn mwy na beth sydd wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sicrhau ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod busnesau yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig mewn sefyllfa i ymdopi gydag effeithiau parhaol y coronafeirws.”
Gofid am gyfraddau uchel o coronafeirws yn etholaeth Ddwyrain Casnewydd
Cafodd Mark Drakeford ei holi wedyn am gyfraddau uchel o’r coronafeirws yn etholaeth Dwyrain Casnewydd, a rhybuddiodd fod lefelau trosglwyddiadau unwaith eto ar gynnydd bythefnos ar ôl diwedd cyfyngiadau symud Cymru.
“Mae etholaeth Ddwyrain Casnewydd, fel sawl ardal yng Nghymru, wedi gweld nifer fawr o achosion o haint y coronafeirws,” meddai wrth y Senedd.
“Cafodd seibiant cenedlaethol dros dro ei gyflwyno i ostwng cyfraddau mynychder ledled Cymru.
“Mae rhai o’r enillion a gafodd eu cyflawni eisoes yn cael eu gwrthdroi yn y cyfnod ar ôl y cyfnod dros dro.”