Mae angen canolbwyntio mwy ar y ffordd y mae pobol yn cymysgu y tu fewn i gartrefi yn hytrach na chymryd yn ganiataol mai tafarndai sy’n bennaf gyfrifol am ledaeniad y coronafeirws, meddai un o ymgynghorwyr gwyddonol y Llywodraeth.

Dywed Lucy Yardley, Athro Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol Bryste ac aelod o bwyllgor SAGE Llywodraeth Prydain, fod pobol yn llai gofalus yn eu cartrefi eu hunain.

“Mewn gwirionedd, pan fydd pobol yn dod at ei gilydd gyda phobol maen nhw’n eu hadnabod yn dda yn eu cartrefi, mae’n sefyllfa beryglus dros ben gan nad ydyn nhw’n ystyried y feirws,” meddai.

“Maen nhw hefyd yn treulio llawer o amser gyda’r bobol hyn a dyna pryd mae’r haint yn fwyaf tebygol o ledaenu.”

Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4 po fwya’ y mae pobol yn ofalus “y lleiaf o ledaeniad fydd yna a’r lleiaf y bydd angen cyfyngiadau arnom”.

“Mae’r neges hon yn y cartref yn arbennig o bwysig wrth i ni ddod at y Nadolig, lle mae’n bosib y bydd pobol yn cael cymysgu mwy,” meddai.

Dywedodd y gallai cyngor wedi’i dargedu helpu i gadw pobol yn ddiogel, fel amddiffyn aelodau bregus o’r aelwyd a chadw pellter cymdeithasol gyda ffrindiau dan do yn ogystal â “pheidio rhannu platiau a chwpanau”.

Pan gafodd ei holi a oes gormod o ffocws ar dafarndai, dywedodd “fod hynny’n hollol wir a gallwn weld hynny yn y dystiolaeth oherwydd bod cymaint o’r haint yn ymledu mewn cartrefi”.

Fodd bynnag, wnaeth hi ddim dweud bod tafarndai’n ddiogel, gan ychwanegu fod “unrhyw le y mae pobol yn cyfarfod yn lle y gall y feirws ledaenu”.