Bydd gweinidogion Cymru yn mynychu cyfarfod Cobra heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 24) i drafod gyda’r gwledydd datganoledig eraill pa gyfyngiadau fydd ar deithio a chymdeithasu dros y Nadolig.
Mae disgwyl iddyn nhw ddatblygu cynllun cyffredin rhwng y pedair gwlad, ond does dim cadarnhad a fydd cyhoeddiad yn dilyn y cyfarfod sydd yn cael ei gynnal am 4 o’r gloch.
Pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn ddoe (dydd Llun, Tachwedd 23) mai “cyrraedd tymor y Nadolig” oedd y flaenoriaeth.
Ychwanegodd efallai y byddai’n rhaid cyflwyno mesurau tebyg i’r Alban a Lloegr er mwyn hwyluso’r broses.
“Byddwn yn ystyried dros yr wythnos nesaf a oes angen i ni gael rheolau tebyg,” meddai.
Dim system tair haen yng Nghymru i baratoi ar gyfer yr Ŵyl
Ond eglurodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360 na fydd system tair haen debyg i un Lloegr a’r Alban yn cael ei chyflwyno yng Nghymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn hytrach yn ystyried dewis a dethol a oes rheolau o wahanol haenau yn Lloegr yn addas i’w cyflwyno yng Nghymru.
“Nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno system tair haen, ond yn hytrach system syml gyffredin,” meddai’r llefarydd.
Ochr draw i Glawdd Offa, bydd system tair haen newydd yn cael ei chyflwyno pan ddaw’r cyfyngiadau presennol i ben yn Lloegr ar Ragfyr 2.
Wrth ddarparu rhagor o wybodaeth ddoe (dydd Llun, Tachwedd 23) am ddiwedd y clo yn Lloegr, doedd dim modd i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gadarnhau’r manylion am sut y byddai pobol ledled y Deyrnas Unedig yn gallu treulio cyfnod yr Ŵyl eleni gan fod trafodaethau yn parhau.
Mae disgwyl i Boris Johnson ddatgelu ddydd Iau (Tachwedd 26) pa ardaloedd yn Lloegr fydd ym mha haen.