Dim ond un o bob wyth gofalwr di-dâl sy’n dweud eu bod yn cael digon o gefnogaeth gan y system gofal cymdeithasol, gyda llawer wedi blino, yn unig ac yn poeni am eu harian, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr.

Mae dwy ran o dair (66%) o ofalwyr di-dâl wedi ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau yn ystod y chwe mis diwethaf yn sgil pandemig y coronafeirws.

Mae bron i ddwy ran o dair (64%) o ofalwyr di-dâl yn dweud nad oedden nhw yn cael digon o gymorth, tra bod 24% yn dweud nad oedden nhw’n siŵr.

Mae mwy na hanner y gofalwyr wedi rhoi’r gorau i waith cyflogedig, neu wedi’i leihau, er mwyn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau gofalu.

Mae’r ymateb i’r arolwg yn rhoi darlun “pryderus iawn o unigrwydd, straen, pryderon ariannol, tlodi a dewisiadau amhosibl”, meddai’r elusen.

Dywed 64% o’r ymatebwyr eu bod yn treulio mwy na 50 awr yr wythnos yn gofalu am berthynas.

Cyfrifoldebau gofalu wedi “cynyddu’n ddramatig”

Mae cyfrifoldebau gofalu wedi “cynyddu’n ddramatig” yn ystod y pandemig, gyda thua un o bob chwech (16%) yn dweud eu bod yn gofalu am 40 awr neu fwy’r wythnos oherwydd cyfyngiadau symud a chau gwasanaethau lleol.

Dywed un o’r gofalwyr wnaeth ymateb i’r arolwg ei fod “wedi blino’n lân”, nad yw’n “meddwl y gallaf wynebu chwe mis arall fel y chwe mis diwethaf”, ac “yn teimlo fel bod gofalwyr cael eu gadael”.

Dywedodd Gareth Howells, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr: “Mae’r arolwg hwn yn nodi cost ddynol diffyg buddsoddiad yn ein system gofal cymdeithasol a’r baich cynyddol sy’n cael ei roi ar ofalwyr di-dâl,” meddai Gareth Howells, prif weithredwr yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr.

“Mae gwrthodiad llywodraethau olynol i ddod o hyd i ateb i fater cyllid gofal cymdeithasol bellach yn golygu bod gofalwyr di-dâl yn dioddef.”