Mae gosodwr cyfradd llog Banc Lloegr yn cefnogi datblygiadau brechlynnau “hynod gadarnhaol”, ond yn rhybuddio y gallai Brexit heb gytundeb fod yn fygythiad hirdymor mwy i economi Prydain.
Dywedodd Jonathan Haskel, aelod allanol o Bwyllgor Polisi Ariannol y Banc, y bydd y newyddion diweddar fod brechlynnau coronafeirws hynod effeithiol yn cael eu cyflwyno’n fuan yn “help mawr iawn” i hybu hyder ymhlith cwmnïau ac aelwydydd.
Mae’n dilyn cyhoeddiad ddoe (dydd Llun, Tachwedd 23) fod brechlyn Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca hyd at 90% yn effeithiol yn erbyn y coronafeirws.
Ond dywedodd ei bod yn rhy gynnar i ddweud a fydd yn gwella rhagolygon economaidd y Banc yn sylweddol ar gyfer 2020.
Adleisiodd sylwadau a wnaed gan lywodraethwr y Banc, Andrew Bailey, yn rhybuddio am adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
“Does dim amheuaeth bod (brechlyn) yn cael effaith gadarnhaol ar y rhagolygon economaidd,” meddai.
“Mae hynny’n gadarnhaol dros ben a dylai fod yn help mawr iawn i gwmnïau ac aelwydydd.
“Ond efallai y bydd effeithiau Brexit yn achosi problemau mwy tymor i’r economi.”
Daw hyn wedi i Andrew Bailey ddweud wrth aelodau o Bwyllgor Dethol y Trysorlys nad oes “unrhyw amheuaeth” y byddai methiant i ddod i gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd ar fargen yn waeth i Brydain yn y tymor hir.
Gallai’r economi grebachu 4% yn y pedwerydd chwarter
Dywedodd Andy Haldane, prif economegydd y Banc, wrth y pwyllgor hefyd y gallai ail gyfyngiadau symud cenedlaethol Lloegr weld yr economi’n crebachu tua 4% yn y pedwerydd chwarter.
“Nid yw’n wir fod cyfyngiadau symud yn lladd gweithgaredd – yr hyn sy’n digwydd yw mai ofn haint sy’n lladd gweithgaredd,” meddai.
“Hyd yn oed heb gyfyngiadau symud, os yw’r gyfradd heintio’n mynd yn rhy uchel, mae pobl yn mynd i roi’r gorau i gymryd rhan yn yr economi.”
Pwysleisiodd Jonathan Haskel, sy’n Athro Economeg yn Ysgol Fusnes Imperial College, fod gan yr MPC y gallu o hyd i helpu economi’r Deyrnas Unedig.
“Mae gennym ddigon y gallwn ei wneud o hyd,” meddai.
Lansiodd y Banc £150bn arall o weithredu lleddfu meintiol yn gynharach y mis hwn i helpu’r economi i oroesi’r pandemig ac mae arbenigwyr yn pensilio mewn cylch pellach o brynu bondiau mor gynnar â mis Rhagfyr o bosibl.
Mae’r Banc hefyd yn ymchwilio i’r posibilrwydd o osod cyfraddau llog negyddol yn y Deyrnas Unedig.