Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi cyfyngiadau newydd fydd yn dod i rym o 6yh ddydd Gwener, Rhagfyr 4, i leihau ymlediad y coronafeirws unwaith eto cyn cyfnod y Nadolig.

Bydd rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis gau am chwech yr hwyr, a fyddan nhw ddim yn cael gwerthu alcohol o gwbl – ond bydd hawl ganddynt ddarparu gwasanaeth tecawê drwy’r dydd ac ar ôl chwech.

Bydd rhaid i sinemâu, canolfannau bowlio deg ac atyniadau ymwelwyr dan do fel amgueddfeydd gau yn llwyr.

Ond mi fydd atyniadau awyr agored a gwasanaethau nad ydyn nhw’n hanfodol, gan gynnwys siopau, siopau trin gwallt, a chanolfannau hamdden, yn aros ar agor.

Caiff y cyfyngiadau newydd eu hadolygu ar Ragfyr 17, a phob tair wythnos wedi hynny.

Dryswch am reolau gwerthu alcohol?

Bu peth dryswch yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch a fydd tafarndai, bwytai a chaffis yn cael gwerthu alcohol.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau wrth golwg360 y bydd modd i leoliadau sydd â thrwydded i werthu alcohol oddi ar y safle barhau i wneud hynny tan ddeg y nos.

Ymddengys mae’r sefyllfa fydd y caiff tafarndai a bwytai weini bwyd a diod nad yw’n alcoholig ar y safle tan 6pm.

Yna, gyda thrwydded sy’n caniatáu, gallant ddarparu bwyd a diod gan gynnwys alcohol fel tecawê hyd at 10pm.

Ychwanegodd y llefarydd mai cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol fydd hi i reoli yfed alcohol ar y stryd.

Ffeithiau yn cynnig darlun “llwm”

Disgrifiodd y Prif Weinidog y sefyllfa yng Nghymru fel un “llwm” gan fod cyfradd yr haint wedi cynyddu’n sylweddol dros y penwythnos.

Mae cyfradd yr achosion yn ystod y saith diwrnod diwethaf wedi cynyddu o 187 i 210 o achosion i bob 100,000 o bobol yng Nghymru ers dydd Gwener.

“Oni bai ein bod yn ymateb nawr i’r nifer cynyddol o bobol sydd wedi’u heintio â’r feirws, gallai cyfanswm nifer y bobol â coronafeirws yn yr ysbyty yng Nghymru godi i 2,200 erbyn Ionawr 12,” meddai Mark Drakeford.

“Mae ein modelau yn awgrymu y gallai 1,600 o bobol ychwanegol golli eu bywydau dros gyfnod y gaeaf.”

Ychwanegodd Mark Drakeford fod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion ymhlith pobol dan 25 oed mewn 17 o’r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

“Yn fwy pryderus, mae achosion o’r coronafeirws yn dechrau codi yn y grŵp oedran dros 60 oed yn y rhan fwyaf o Gymru”.

Clo Cymru rhy fyr?

Gofynnwyd i’r Prif Weinidog a ddylai clo dros dro Cymru fod wedi para’n hirach.

Mae wedi cyflawni “popeth y gobeithwyd amdano” meddai Mark Drakeford am glo dros dro Cymru.

Nid yw’r anawsterau heddiw yn gysylltiedig â’r penderfyniad o ran y clo dros dro, meddai.

“Dydw i ddim yn meddwl ein bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir […] Gwnaethom y penderfyniad ar y pryd ar sail y dystiolaeth orau oedd ganddon ni ar y pryd, ac mae’r niferoedd wedi codi’n gyflymach nag yr oeddem wedi gobeithio.”

Cyfyngiadau newydd yn “destun gofid mawr”

Wrth gyhoeddi’r cyfyngiadau newydd, dywedodd Mark Drakeford fod gosod y cyfyngiadau newydd ar y diwydiant lletygarwch yng Nghymru yn “destun gofid mawr”.

Dywedodd Mr Drakeford nad oedd pobl sy’n cyfarfod mewn lleoliadau lletygarwch yn cael ‘cyswllt cyflym’ ag eraill, megis mewn archfarchnad, ond yn hytrach yn eistedd gyda’i gilydd am gyfnod o amser.

“Pan fyddwn ni’n dod at ein gilydd yn y ffordd honno, boed yn ein cartref ein hunain neu mewn lleoliad lletygarwch, mae’r feirws yn ffynnu ac mae’r achosion yn codi ac rydyn ni’n y pen draw gyda’r sefyllfa rydyn ni’n ei gweld yng Nghymru heddiw,” meddai.

“Mae’n destun gofid mawr oherwydd yr holl waith y mae’r sector wedi’i wneud a’r holl bobl sy’n gweithio ynddo, ein bod yn gorfod, fel yn Lloegr ac fel yn yr Alban, ychwanegu’r mesur hwn at camau gweithredu yr ydym yn eu cymryd i sicrhau, pan fyddwn yn mynd i mewn i’r cyfnod Nadolig hwnnw, y pum niwrnod hynny pan fydd cyfyngiadau’n cael eu llacio ar gyfer aelwydydd, ein bod wedi creu sefyllfa lle gellir rheoli’r risg i’n gilydd ac i’n gwasanaeth iechyd.”

Pan ofynnwys iddo beth fyddai’n dweud wrth fusnesau a oedd yn dibynnu ar elw mis Rhagfyr a mis Ionawr, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn ddewis “rhwng achub bywydau ac achub bywoliaethau”.

“Y cyfan y gallaf ei ddweud wrthynt yw ein bod yn dal i fod yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus.

“Er fy mod yn cydymdeimlo’n fawr â’r busnesau hynny sy’n awyddus i’w dyfodol… rydym yn gorfod cydbwyso’r effaith arnynt â’r bywydau a fyddai fel arall yn cael eu colli.”

Pecyn cymorth “mwyaf hael” yn y Deyrnas Unedig

Ochr yn ochr â’r cyfyngiadau newydd mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi pecyn cymorth i’r diwydiant lletygarwch.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai dyma’r pecyn cymorth “mwyaf hael” yn y Deyrnas Unedig.

  • Elfen gyntaf y pecyn yw cronfa o £160m, bydd yn cefnogi hyd at 60,000 o fusnesau annomestig ledled Cymru.
    • Bydd busnesau, gan gynnwys y rhai ym maes manwerthu, twristiaeth, hamdden, lletygarwch a chyflenwyr y mae’r cyfyngiadau’n effeithio’n sylweddol arnynt yn cael taliadau o rhwng £3,000 a £5,000.
    • Bydd grantiau dewisol o hyd at £2,000 yn parhau i fod ar gael i fusnesau nad ydynt ar y rhestr annomestig.
    • Bydd y gronfa yma yn cael ei rheoli gan awdurdodau lleol.
  • Yr ail elfen yw cronfa £180m ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden.
    • Bydd yn darparu grantiau o hyd at £100,000 i fusnesau bach a chanolig a £150,000 i fusnesau mwy.
    • Bydd y grantiau’n ddibynnol ar y nifer o bobol a gyflogir a’u costau gweithredu.
    • Bydd hyd at 10,000 o fusnesau’n cael eu cefnogi.
    • Bydd y gronfa yma yn cael ei rheoli gan Busnes Cymru

“Mae’r rheolau’n ddryslyd ac wedi newid sawl gwaith … byddwn wedi bod ynghau fwy nag ar agor eleni.”

Ymateb gwleidyddion a chynrychiolwyr y sector i gyhoeddiad cyfyngiadau Llywodraeth Cymru