Mae cau deintyddfa yng Nghaernarfon yn nodweddiadol o broblemau hirdymor mewn gofal deintyddol, meddai Siân Gwenllian AS Plaid Cymru.

Dywedodd yr Aelod o’r Senedd, sy’n cynrychioli etholaeth Arfon, bod angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i “ffordd glir ymlaen”, ar ôl cyhoeddi cau practis Gofal Deintyddol Bupa yng Nghaernarfon.

Cafodd aelodau staff deintyddion Bupa ym Mae Colwyn a Chaernarfon wybod yr wythnos ddiwethaf y bydd y deintyddfeydd yn cau ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.

“Mae’r newyddion y bydd practis deintyddol Bupa ar Ystâd Ddiwydiannol Cibyn yn cau yn siom enfawr. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn mynegi eu pryder, ac yn anffodus nid yw’r newyddion yn fy synnu,” meddai Siân Gwenllian.

“Rwyf wedi siarad â chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd a’r Gweinidog Iechyd ers fy ethol yn haf 2016, yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ba gamau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu cymryd i fynd i’r afael â phrinder gwasanaethau gofal deintyddol yn Arfon.

“Yr wyf yn arbennig o bryderus, wrth gwrs, am y rheini na allant fforddio gwasanaethau iechyd preifat ac sydd felly’n dibynnu ar wasanaethau’r GIG yn unig.”

Yn ôl Plaid Cymru, mae cau’r ddau bractis yn debygol o effeithio dros 20,000 o gleifion, ond nid yw’r cwmni wedi cadarnhau’r ffigur hwnnw.

Canolfan Hyfforddi newydd

Fodd bynnag, mae Siân Gwenllian wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd canolfan hyfforddi ar gyfer deintyddiaeth yn agor yng ngogledd Cymru, ond mae hi’n dal i fynegi pryderon.

Dywedodd fod “canolfan o’r fath ddwy neu dair blynedd i ffwrdd, ac yn y cyfamser, mae yna argyfwng gwirioneddol yn digwydd yn fy etholaeth i.”

“Mae rhan o’r broblem yn codi o’r ffordd mae’r cytundebau yn gweithio rhwng deintyddion a’r byrddau iechyd, ac mae yna addewid wedi bod ers tro y byddai’r Llywodraeth yma yn edrych yn fanwl ar beth sydd angen ei wneud er mwyn gwella’r sefyllfa yna,” dywedodd Siân Gwenllian wrth annerch Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

“Fedrwch chi symud ymlaen efo’r gwaith yna rŵan os gwelwch yn dda? Ar y funud, mae pobol yn fy etholaeth i yn cael eu gadael i lawr.

“Mae yna ddeintyddfa arall yn cau’r flwyddyn nesaf, ac mae yna wirioneddol angen gweithredu buan yn y maes yma.”

Beio Brexit

Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog fod yno fai ar Brexit.

“Mae Brexit wedi cael effaith negyddol ar wasanaethau deintyddol,” meddai.

“Mae 17% o’r deintyddion sy’n cael eu cyflogi gan y cwmnïau mawr – a’r cwmnïau mawr sy’n cwympo mas o ardaloedd fel y gogledd-orllewin – yn cael eu recriwtio o’r Undeb Ewropeaidd, ac mae Brexit yn tanseilio hynny.”

Ond dywedodd Siân Gwenllian fod “angen cynllun tymor hir ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r heriau hyn.”