Bydd canolfan brofi newydd yn agor yn Nolgellau ddydd Mawrth (Rhagfyr 1) i’w gwneud hi’n haws i bobol yn ardal Meirionnydd gael prawf Covid-19.
Mae’r gwasanaeth newydd wedi’i leoli ar y Marian yn Nolgellau ar hyn o bryd.
Bwriad y Cyngor Sir yw y bydd y cyfleuster symudol yn symud i leoliadau eraill yn ardal Meirionnydd wedi hynny.
Eglurodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, ei fod yn falch o gydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwladr er mwyn sicrhau bod gan bobol ardal Meirionnydd fynediad i uned profi symudol.
“Rydym yn gobeithio y bydd lleoli uned ym Meirionnydd o fudd i drigolion y rhan hon o’r sir wrth i ni weithio i atal Covid-19 rhag lledaenu a gwarchod ein gwasanaethau iechyd a gofal,” meddai.
“Hoffwn atgoffa trigolion bod y cyfleusterau ar gyfer y bobol hynny sydd â symptomau yn unig. Bydd hyn yn helpu i leddfu pwysau i’n partneriaid iechyd sydd eisoes yn gweithio’n galed iawn i gefnogi ein cymunedau lleol.
“Byddwn hefyd yn atgoffa trigolion i barhau i ddilyn y rheolau er mwyn cadw cyfradd achosion Covid-19 i lawr. Gall pob un ohonom chwarae ein rhan trwy bellhau’n gymdeithasol, golchi dwylo a gwisgo gorchuddion wyneb lle bo angen.”