Bydd yn rhaid i gwmniau telegyfathrebu roi’r gorau i osod offer Huawei mewn rhwydweithiau 5G o ddiwedd mis Medi 2021, meddai’r Llywodraeth.

Mae Ysgrifennydd Diwylliant y Deyrnas Unedig, Oliver Dowden, wedi amlinellu cynlluniau i gael gwared ar werthwyr telegyfathrebu sydd o risg uchel.

Daw hyn cyn i’r Bil diogelwch telegyfathrebu gael ei gyflwyno gerbron y Senedd ddydd Mawrth, Rhagfyr 1.

Fis Gorffennaf cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai holl offer cwmni Huawei wedi’i rwygo o rwydweithiau 5G erbyn 2027.

Ond mae Oliver Dowden bellach wedi cadarnhau bydd rhaid i gwmniau telegyfathrebu wneud hyn o ddiwedd mis Medi 2021.

Ni fydd hyn yn effeithio ar offer Huawei osodwyd yn flaenorol.

“Heddiw rwy’n gosod llwybr clir ar gyfer tynnu gwerthwyr risg uchel yn llwyr o’n rhwydweithiau 5G,” meddai Oliver Dowden.

“Bydd hyn yn cael ei wneud drwy bwerau newydd a digynsail i nodi a gwahardd offer telegyfathrebu sy’n fygythiad i’n diogelwch cenedlaethol.

“Rydym hefyd yn cyhoeddi strategaeth newydd i sicrhau nad ydym byth eto’n ddibynnol ar lond llaw o gwmniau telegyfathrebu er mwyn rhedeg ein rhwydweithiau.

“Wrth symud tua’r dyfodol bydd ein cynlluniau’n arloesol.”

Dirwyon o £100,000

Bydd y Llywodraeth yn gwario £250 miliwn i greu marchnad telegyfathrebu fwy amrywiol, cystadleuol ac arloesol.

Ofcom fydd yn gyfrifol am fonitro ac asesu protocolau diogelwch ymhlith darparwyr.

Gall cwmnïau sydd yn torri’r rheolau wynebu dirwyon o 10% o drosiant neu £100,000 y diwrnod.