Mae disgwyl i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyhoeddi cyfyngiadau newydd ar dafarnau, bariau a bwytai yng Nghymru prynhawn ’ma (Dydd Llun, Tachwedd 30).

Ochr yn ochr â’r cyfyngiadau newydd, bydd pecyn cymorth i’r diwydiant lletygarwch yn cael ei gyhoeddi.

Mae’r union fanylion am y rheolau newydd, a ddaw i rym ddydd Gwener, Rhagfyr 4, wedi bod yn cael eu paratoi dros y penwythnos, ond mae golwg360 yn deall bod system debyg i ‘lefel tri’ yn yr Alban yn cael ei ystyried.

O dan y lefel honno, mae lleoliadau wedi’u gwahardd rhag gwerthu alcohol ac mae’n rhaid iddynt gau am chwech yr hwyr.

Daw hyn wedi i dafarndai, bariau a bwytai ail agor ar Dachwedd 9 ar ôl y clo 17 diwrnod ledled Cymru – ar hyn o bryd mae’n ofynnol iddynt gau am ddeg yr hwyr.

Mae disgwyl i sinemâu, canolfannau bowlio deg a lleoliadau adloniant dan do eraill hefyd gau fel rhan o’r cyfyngiadau.

Ond fe fydd gwasanaethau nad ydyn nhw’n hanfodol, gan gynnwys siopau, siopau trin gwallt a chanolfannau hamdden yn aros ar agor.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o gefnogaeth ariannol i fusnesau lletygarwch dros fisoedd y gaeaf i leihau’r “ansicrwydd llethol”.

Bydd y Prif Weinidog yn rhoi diweddariad am y sefyllfa am 12:15, ddydd Llun, Tachwedd 30.