Mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd George Eustice wedi addo y bydd y newidiadau mewn cymorthdaliadau ffermio ar ôl Brexit yn arwain at lai o waith papur i ffermwyr.

Wrth siarad â Times Radio, dywedodd: “Rydym yn haneru llawer o’r rheolau a’r rheoliadau dibwrpas a etifeddwyd gennym gan yr Undeb Ewropeaidd.”

Pan ofynnwyd iddo am yr effaith ar brisiau bwyd, dywedodd fod y Llywodraeth yn credu y byddai prisiau’n parhau’n sefydlog.

“Ond mae gennym fesurau eraill yn ein Bil yn ogystal â sicrhau bod ffermwyr yn cael cyfran decach o werth y bwyd maen nhw’n ei gynhyrchu,” meddai.

Dywedodd nad yw ffermwyr “yn aml yn cael pris teg am y bwyd y maen nhw’n ei gynhyrchu”.

“Os gallwn gywiro hynny, bydd gennym brisiau bwyd sefydlog, amgylchedd fferm well ac yn gwella gallu ffermydd i wneud elw hefyd.”

Aeth ymlaen i ddweud y bydd y cymorthdaliadau ffermio newydd yn llawer symlach na system “anobeithiol fiwrocrataidd” yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth siarad â BBC Breakfast, dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd: “Mae’n gyfle i wneud pethau’n llawer gwell nag y gallem o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin –  sy’n enwog am fod yn anobeithiol o fiwrocrataidd.

“Roedd hefyd yn rhoi arian i ffermwyr yn seiliedig ar faint o dir yr oeddent yn berchen arno neu’n ei rentu, ac, o ganlyniad, roedd y symiau mwyaf o arian yn mynd i’r perchnogion tir mwyaf a chyfoethocaf.”

System dalu newydd

Mae George Eustice wedi amlinellu nodau’r Llywodraeth ar gyfer ei system dalu newydd i ffermwyr ar ôl Brexit.

Wrth siarad â Times Radio, dywedodd George Eustice y bydd y cymhellion ffermio cynaliadwy newydd “yn cefnogi ffermwyr i wneud pethau fel gwella ansawdd dŵr a rheoli gwrychoedd i wneud lle i adar tir fferm.”

Dywedodd y byddai’r cynllun hefyd yn helpu i wella ansawdd pridd, “lle mae potensial mawr i gloi mwy o garbon a gweld gwelliant mewn bioamrywiaeth”.

Dywedodd George Eustice y bydd cynlluniau’r Llywodraeth i helpu ffermwyr i reoli eu tir mewn ffordd gynaliadwy ar ôl Brexit yn “symud i ffwrdd o fiwrocratiaeth” ac yn cyflwyno dull personol yn ei le.

“Pan rydych chi’n dylunio ac yn cyflwyno cynllun fel hwn, ni ddylai fod yn chwyldro dros nos, na newid mawr dros gyfnod o flwyddyn, dylech chi wneud yr hyn rydyn ni’n ei osod allan sydd yn newid cynyddol dros gyfnod o saith mlynedd,” meddai.

Trafodaethau Brexit yn parhau

Bydd trafodaethau ar gytundeb masnach rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn ailddechrau ddydd Llun (Tachwedd 30) yn yr hyn a allai fod yn wythnos olaf y trafodaethau.

Bydd prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd Michel Barnier a’r Arglwydd Frost, yn cyfarfod eto yn Llundain wrth iddyn nhw geisio dod i gytundeb.

Heb gytundeb, bydd y DU yn gadael y farchnad sengl a’r undeb tollau ar Ragfyr 31, ac yn masnachu o dan delerau Sefydliad Masnach y Byd (WTO).