Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi mynnu nad yw hi wedi diystyru her gyfreithiol i’r Goruchaf Lys os yw San Steffan yn gwrthod caniatáu ail refferendwm ar annibyniaeth.

Dywedodd Nicola Sturgeon wrth raglen Today ar Radio 4 bod y cwestiwn – “a oes gan Senedd yr Alban yr hawl i gynnal refferendwm ai peidio waeth beth mae San Steffan yn ei ddweud?” – erioed wedi cael ei drafod yn y llysoedd ac nad oedd hi wedi diystyru hynny.

“Mi allai Boris Johnson a fi ddadlau a ddylai’r Alban fod yn annibynnol neu ddim – mae’n ddigon teg iddo fe ddadlau yn erbyn hynny.

“Beth sydd ddim, yn fy marn i, yn deg nac yn dderbyniol, yw iddo fe ddweud na all pobl yr Alban benderfynu hynny a’i fod rywsut yn gallu atal democratiaeth.”