Dywed Heddlu’r Gogledd bod corff dyn wedi cael ei ddarganfod ar draeth yn Llandudno, Sir Conwy fore ddoe (Dydd Sul, Tachwedd 29).

Roedd y dyn yn ei 70au a dywedodd yr heddlu nad oedd yn dod o Ogledd Cymru.

Nid oes unrhyw amgylchiadau amheus, meddai’r heddlu, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.