Mae’r awdurdodau yn Seland Newydd wedi cyflwyno cyhuddiadau’n ymwneud a thorri rheolau diogelwch ar ôl i losgfynydd ffrwydro ar Ynys Wen (White Island) y llynedd gan ladd 22 o bobl.
Roedd yr ynys wedi bod yn lleoliad poblogaidd gydag ymwelwyr cyn i’r llosgfynydd ffrwydro ar Ragfyr 9 y llynedd. Ond mae nifer o bobl wedi gofyn pam fod twristiaid wedi cael ymweld â’r ynys yn enwedig ar ôl i arbenigwyr ddweud bod perygl i’r llosgfynydd ffrwydro bythefnos cyn y digwyddiad.
Nid yw’r awdurdodau wedi cyhoeddi enwau’r 10 sefydliad a thri unigolyn sydd wedi’u cyhuddo.
Ond mae dwy asiantaeth sy’n dibynnu ar arian cyhoeddus – GNS Science a National Emergency Management Agency – wedi datgelu eu bod nhw ymhlith y rhai sydd wedi’u cyhuddo.
Mae disgwyl i gwmnïau preifat oedd yn cludo pobl i’r ynys fod ymhlith y rhai eraill sydd wedi’u cyhuddo.
Mae pob un o’r sefydliadau yn wynebu dirwy o hyd at £820,000, a phob unigolyn yn wynebu gorfod talu hyd at £158,000.
Mae’r cyhuddiadau wedi cael eu gwneud gan asiantaeth WorkSafe Seland Newydd ac yn gyhuddiadau ar wahân i ymchwiliad yr heddlu i’r digwyddiad, a allai arwain at ragor o gyhuddiadau. Mae teuluoedd rhai o’r bobl gafodd eu lladd neu eu hanafu hefyd wedi cymryd camau cyfreithiol eu hunain.
“Roedd y digwyddiad trasig iawn yma yn annisgwyl. Ond nid yw hynny’n golygu na ellir fod wedi’i ragweld,” meddai Phil Parkes, prif weithredwr WorkSafe.
Ychwanegodd bod y dioddefwyr, oedd yn cynnwys ymwelwyr a’r rhai oedd yn eu tywys, wedi mynd i’r ynys gan ddisgwyl y byddai’r sefydliadau oedd yn gysylltiedig wedi cwblhau’r gofynion i sicrhau eu hiechyd a diogelwch.
Roedd 47 o bobl ar Ynys Wen, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Whakaari, pan ffrwydrodd y llosgfynydd. Roedd y rhan fwyaf o’r 25 o bobl oedd wedi goroesi wedi cael llosgiadau difrifol.