Mae disgyblion mewn grŵp cyswllt yn Ysgol Gynradd Ciliau Parc, Ciliau Aeron yng Ngheredigion yn gorfod hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl i achos o Covid-19 gael ei gadarnhau yn yr ysgol.

Fe fydd yn rhaid i’r disgyblion a’r staff, sydd wedi bod mewn cysylltiad agos a’r unigolyn sydd a Covid-19, aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion: “Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi’u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond un Grŵp Cyswllt y gofynnir iddo hunan-ynysu. Mae’r ysgol wedi cysylltu â’r holl rieni.”

Mae’r Cyngor yn annog pob rhiant i fynd a’u plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw un o’r symptomau, sef tymheredd uchel, peswch parhaus newydd a cholled neu newid i synnwyr arogli neu flas.

Mae’n bosib gwneud cais am brawf ar-lein https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu trwy ffonio 119.