Mae canllawiau newydd ar gyfer ymweld ag ysbytai yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi heddiw (ddydd Llun 30 Tachwedd 2020), gan ddisodli’r canllawiau a gyhoeddwyd gynt.

Fodd bynnag, bydd gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a hosbisau fwy o hyblygrwydd i benderfynu pwy fydd yn cael ymweld a chleifion.

Daw hyn o ganlyniad i amrywiadau sylweddol mewn trosglwyddiad cymunedol ar draws gwahanol rannau o Gymru.

Mae’r canllawiau newydd yn caniatáu i staff gofal iechyd asesu ffactorau lleol a gweithio gyda thimau atal a rheoli haint lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth gytuno ar drefniadau ymweld.

Gall darparwyr gofal iechyd wyro oddi wrth y canllawiau mewn ymateb i:

  • Lefelau cynyddol o drosglwyddiad Covid-19 yn eu hardaloedd, gan gynnwys lefelau a arweiniodd at gyfyngiadau symud cenedlaethol a/neu dystiolaeth o drosglwyddiad nosocomiaidd mewn lleoliad penodol.
  • Lefelau trosglwyddo sy’n gostwng yn eu hardal leol.

Gwasanaethau mamolaeth

Bydd ymweliadau mewn gwasanaethau mamolaeth bellach yn seiliedig ar asesu risg gan y byrddau iechyd.

O ganlyniad bydd ffactorau megis maint ystafelloedd, y gallu i gadw pellter cymdeithasol a risgiau atal a rheoli haint yn cael eu hystyried wrth alluogi partneriaid i gadw cwmni i fenywod beichiog a mamau newydd.

Bydd pob dynes yn cael o leiaf un partner gyda nhw wrth esgor, yn yr enedigaeth ei hun a’r cyfnod ar ôl yr enedigaeth, ac eithrio mewn amgylchiadau prin iawn.

Mae’r Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai rhai pobol fod angen cynorthwyydd cymorth hanfodol megis gweithiwr cymorth neu gyfieithydd ar y pryd.

Ond ni fydd cynorthwywyr cymorth hanfodol yn cael ei hystyried fel ymwelwyr.

“Rydyn ni’n cydnabod bod y cyfyngiadau ar ymweld yn cael effaith enfawr ar gleifion, eu teuluoedd a’u hanwyliaid,” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

“Rydyn ni wedi cyhoeddi newidiadau pellach i’r canllawiau heddiw i roi’r hyblygrwydd i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a hosbisau wyro oddi wrth y canllawiau mewn ymateb i lefelau lleol o drosglwyddiad Covid-19.

“Bydd angen i ddewisiadau anodd gael eu gwneud o hyd ond rydym yn gobeithio y bydd y canllawiau diwygiedig yn rhoi mwy o hyblygrwydd  i ddarparwyr gofal iechyd. ”

Plaid Cymru’n galw am fwy eglurder

Mae Plaid Cymru wedi galw am fwy o eglurder ynghylch newidiadau i ymweld ag ysbytai.

Dywedodd Bethan Sayed, Aelod o’r Senedd dros Dde Cymru Gorllewin, ei bod yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar famau a’i gwneud hi’n haws i bartneriaid fynd gyda merched beichiog drwy’r broses famolaeth.

Fodd bynnag, nid yw Plaid Cymru’n fodlon bod Llywodraeth Cymru’n disgwyl i reolwyr ysbytai unigol wneud penderfyniadau a allai, mewn rhai ardaloedd, weld fwy o gyfyngiadau eto ynglyn ag ymweld ag ysbytai.

“Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i unrhyw riant beichiog neu newydd – gall genedigaeth fod yn ddigon trawmatig ar brydiau ond mae gorfod gwneud hynny yn ystod cyfyngiadau Covid-19 a heb bartner cefnogol wrth eich ochr chi bob amser, yn gwneud pethau’n waeth o lawer,” meddai Bethan Sayed.

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried ein pryderon ar ôl misoedd o ymgyrchu ac wedi gwneud tro pedol. Ond rwy’n bryderus hefyd y gallem weld sefyllfa dameidiog yn datblygu os yw’r rheolau yn wahanol ym mhob ysbyty ac, o bosib, yn llawer llymach nag y maent ar hyn o bryd.

“Roedd Plaid Cymru wedi trefnu dadl ar yr union fater hwn yn y Senedd yn ystod y dyddiau nesaf felly efallai bod hynny wedi helpu i gyflymu ymateb y Llywodraeth a fydd, gobeithio, yn gwneud bywyd yn haws i ferched beichiog a mamau newydd a’u partneriaid.”