Yn ôl adroddiadau fydd na ddim benthyciad munud ola’ i achub cwmni Syr Philip Green, Grŵp Arcadia, gan roi miloedd o swyddi yn y fantol.

Fe ddatgelwyd bod y grŵp, sy’n cynnwys Topshop, Dorothy Perkins a Burton, ar fin mynd i’r wal gyda thua 15,000 o swyddi mewn perygl o gael eu colli.

Dywedodd ffynonellau yn y cwmni wrth y BBC nad ydyn nhw’n disgwyl cytundeb munud olaf gwerth miliynau o bunnoedd.

Fe fydd Grŵp Arcadia yn cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 30), yn ôl y BBC, gyda Deloitte yn cael eu penodi fel gweinyddwyr yn y dyddiau nesaf.

Roedd Mike Ashley o Grwp Frasers, sy’n berchen Sports Direct a House of Fraser, wedi dweud eu bod wedi cynnig benthyciad o hyd at £50 miliwn i Grŵp Arcadia ac yn disgwyl ymateb.

Roedd Arcadia wedi bod mewn trafodaethau brys gyda benthycwyr er mwyn ceisio sicrhau benthyciad o £30m.

Os yw’r grŵp yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr mae disgwyl i gredydwyr geisio cael gafael ar asedau’r cwmni.

Dyma’r cwmni diweddaraf i ddioddef yn sgil cau siopau yn ystod y cyfnod clo.  Mae Debenhams, Grŵp Edinburgh Woollen Mill ac Oasis Warehouse i gyd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ers y cyfnod clo ym mis Mawrth.

Mae gan Arcadia mwy na 500 o siopau ar draws y Deyrnas Unedig.