Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o gefnogaeth ariannol i fusnesau lletygarwch dros fisoedd y gaeaf gan ddweud bod yr “ansicrwydd llethol” yn achosi niwed difrifol.

Daw galwadau’r blaid wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyhoeddi manylion pellach am y cyfyngiadau newydd ar y sector lletygarwch heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 30).

Bydd cyfyngiadau newydd ar dafarnau, bariau a bwytai yng Nghymru ac mae disgwyl i sinemâu, canolfannau bowlio deg a lleoliadau adloniant dan do eraill gau fel rhan o’r cyfyngiadau.

Ond fe fydd gwasanaethau nad ydyn nhw’n hanfodol, gan gynnwys siopau, siopau trin gwallt a chanolfannau hamdden yn aros ar agor.

Y gobaith yw lleihau ymlediad y coronafeirws unwaith eto cyn cyfnod y Nadolig, yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford.

“Ansicrwydd llethol”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price MS: “Ar ddechrau wythnos dyngedfennol – yn enwedig i’r sector lletygarwch – rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cefnogaeth wedi’i thargedu i fusnesau Cymru er mwyn caniatáu iddyn nhw aeafgysgu’n effeithiol dros y gaeaf.

“Mae busnesau’n dweud wrthyf fod yr ansicrwydd llethol a ddaw yn sgil cloi a datgloi yn gwneud niwed di-feth i’w diwydiant.

“Trwy gadw manwerthu a hamdden yn agored, a thrwy ganolbwyntio’r gefnogaeth ar gwmnïau o Gymru yn hytrach na chorfforaethau’r Deyrnas Unedig mae’n bosibl cynyddu lefel y gefnogaeth i’r sector lletygarwch uwchlaw’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd fel y gallwn i gyd ddychwelyd i gefnogi busnesau Cymreig lleol y gwanwyn nesaf.”

Rhaglen brofi

Mae Adam Price hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei rhaglen brofi gan ei gwneud yn “ymarfer wirioneddol dorfol” ym mhob rhan o Gymru.

“Rhaid troi’r hyn sydd ar hyn o bryd yn gynllun peilot yn flaenoriaeth genedlaethol,” meddai.

“A phan ofynnir i bobl hunan ynysu, rhaid cynyddu’r gefnogaeth ariannol sy’n cael ei gynnig iddyn nhw i £800 y pen.

“Mae cymaint o bobl wedi aberthu cymaint – rhaid i ni i gyd ddyblu ein hymdrechion wrth weithio gyda’n gilydd i atal y firws ac osgoi cylch diddiwedd o gloi a datgloi.”