Mae Adam Price wedi dweud wrth gynhadledd rithiol yr SNP mai Boris Johnson yw’r “asiant recriwtio mwyaf” ar gyfer y mudiad annibyniaeth.

Ac wrth ymateb i sylwadau prif weinidog Prydain fod datganoli wedi bod yn “drychineb”, dywedodd arweinydd Plaid Cymru mai Boris Johnson yntau yw’r “drychineb”.

Fe ddaeth ei sylwadau wrth iddo ladd ar y modd y mae Llywodraeth Prydain wedi ymateb i’r coronafeirws, wrth iddo hefyd ddarogan y gallai etholiadau Cymru a’r Alban arwain at “haf annibyniaeth ’21”.

Dywedodd fod “deffroad Cymru yn dal i fyny â hwb sydyn yr Alban”, wrth iddo addo y byddai Plaid Cymru’n brwydro etholiadau’r Senedd yn 2021 ar sail “y prosbectws mwyaf radical a thrawsnewidiol a welwyd ers datganoli”.

“Bydd rhoi’r hawl i bobol Cymru benderfynu ar eu dyfodol fel cenedl yn ganolog i’n cynlluniau,” meddai.

“Boed i neb amau y bydda i’n arwain tîm a phlaid sy’n glir o ran eu nod, yn unedig o ran eu hamcanion, yn ymrwymo i gynnal ac ennill refferendwm annibyniaeth cyn gynted ag y gallwn.”

Coronafeirws yn amlygu’r “gwaethaf” yn San Steffan

Dywedodd ymhellach fod y pandemig coronafeirws wedi “amlygu gormodeddau gwaethaf arweinyddiaeth San Steffan”.

Fe wnaeth e feirniadu Llywodraeth Prydain am “gytundebau PPE amheus, cyfundrefn brofi wallus a ‘ffrindgarwch’ Torïaidd sy’n tyfu bob dydd”.

“Yr unig drychineb yw’r prif weinidog yntau – yr asiant recriwtio mwyaf fu gan annibyniaeth erioed,” meddai.

“Fel y mae hi ar hyn o bryd, bydd palasau adfeiliog San Steffan yn parhau y tu hwnt i’r Undeb hithiau – hei lwc na fydd rhaid i ni dalu am yr ailwampio.”