Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn gwrthod dweud a fyddai hi’n croesawu Alex Salmond yn ôl i’r SNP.

Cafodd ei herio ar y mater gan raglen Andrew Marr ar y BBC, ar ôl i’w dirprwy John Swinney ddweud nad yw’r blaid “wedi cau’r drws” ar y cyn-brif weinidog ar ôl iddo ennill achos llys yn erbyn Llywodraeth yr Alban.

Mae pwyllgor yn Holyrood yn ymchwilio i’r modd y gwnaeth y llywodraeth ymdrin â honiadau ynghylch ymddygiad rhywiol Alex Salmond, ac mae Senedd yr Alban wedi pleidleisio ddwywaith o blaid trosglwyddo’r cyngor cyfreithiol i aelodau seneddol yr Alban.

Yn ôl Nicola Sturgeon, rhaid i’r ddau ymchwiliad gael eu cwblhau.

“Dw i ddim am drafod y materion hyn heddiw,” meddai Nicola Sturgeon wrth ateb cwestiwn am groesawu Alex Salmond yn ôl i’r SNP.

“Mae yna ymchwiliad seneddol ar y gweill, mae yna ymchwiliad i’m hymddygiad i yn nhermau’r cod gweinidogol.

“Dw i’n credu ei bod yn bwysig galluogi’r ymchwiliadau hyn fynd i’w terfyn.

“Mae yna faterion pwysig o ran craffu ac atebolrwydd gwleidyddol, does gen i ddim problem â hynny, ond dw i’n credu ei bod yn bwysig i’r prosesau hynny sydd ar y gweill gael mynd i’w terfyn.”

Perthynas dan straen

Fe wnaeth Nicola Sturgeon olynu Alex Salmond ar ôl refferendwm annibyniaeth aflwyddiannus 2014.

Ond mae’r berthynas rhwng y ddau wedi suro erbyn hyn yn sgil yr honiadau yn erbyn Alex Salmond.

Derbyniodd e iawndal o fwy na £500,000 ar ddiwedd yr achos.