Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ddull pedair gwlad o gynnal profion coronafeirws ar fyfyrwyr cyn iddyn nhw ddychwelyd i’r brifysgol ar ôl y Nadolig.

Mewn llythyr at lywodraethau’r pedair gwlad, maen nhw’n mynnu bod rhaid i weinidogion gytuno ar gynllun i ddychwelyd myfyrwyr yn ddiogel i’r brifysgol, gyda phryderon y gall fod ton newydd o’r feirws ym mis Ionawr.

Ond mae UCU, undeb y colegau a’r prifysgolion, yn rhybuddio y gallai cynllun o’r fath fod yn “ddi-drefn”.

Mae ffenest o saith diwrnod yn ei lle fel bod modd i fyfyrwyr fynd adref ar gyfer y Nadolig, gyda phrofion ychwanegol yn cael eu cynnig cyn iddyn nhw adael y brifysgol.

Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i gael prawf mewn rhai prifysgolion yn Lloegr, tra bydd darlithoedd ar-lein erbyn Rhagfyr 9 fel bod modd i fyfyrwyr hunanynysu pe bai angen.

Ond mae UCU yn rhybuddio bod y cynllun wedi cael ei “ruthro”, ac maen nhw’n codi amheuon am gywirdeb y profion, gyda phryderon eisoes fod profion o’r fath yn gallu rhoi canlyniadau camarweiniol gan eu bod nhw’n cael eu rhoi o fewn munudau’n unig.

Yn ôl arbenigwr ym Mhrifysgol Birmingham, mae’r prawf yn gallu adnabod 73% o achosion wrth gynnal profion ar safle arbennig, ond mae’r ffigwr yn gostwng i 57% mewn canolfan brofi lle mae staff sydd wedi hyfforddi eu hunain i gynnal profion yn gweithio.

‘Annhrefn’

“Mae’r gwallau yng nghynlluniau’r Llywodraeth [yn San Steffan] i gynnal profion torfol yn rysait ar gyfer annhrefn sy’n peri risg o ledu’r feirws,” meddai Jo Grady, ysgrifennydd cyffredinol UCU.

“Mae gennym bryderon difrifol ynghylch sut fydd y rhaglen hon yn cael ei gweithredu, yn enwedig y risg y gallai myfyrwyr gael gwybod – ar gam – nad oes ganddyn nhw Covid, a dibynnu wedyn ar ganlyniad eu prawf i gael teithio adref a threulio’r Nadolig gyda pherthnasau bregus.

“Mae’r risg y bydd myfyrwyr yn derbyn y canlyniad prawf anghywir yn cynyddu pan fydd rhai sydd heb eu hyfforddi’n cynnal profion – ac mae rhuthro’r cynlluniau hyn yn gwneud hynny’n fwy tebygol.”

Fe wnaeth yr undeb gyhuddo Llywodraeth Prydain o beidio â gwrando ar bryderon am ganlyniadau symud llu o fyfyrwyr i brifysgolion ym mis Medi, ac maen nhw’n rhybuddio unwaith eto fod perygl wrth eu symud nhw i fynd adref ar gyfer y Nadolig.

“Wrth ddewis parhau â dysgu wyneb-yn-wyneb hyd at y funud olaf, mae gweinidogion yn hapchwarae â diogelwch staff, myfyrwyr a’r genedl, gan fetio popeth ar raglen brofi heb ei phrofi, a symudiad torfol o fyfyrwyr mewn ffenest o lai na phythefnos,” meddai Jo Grady.

Mae’n galw am egluro cynlluniau prifysgolion i ddysgu myfyrwyr y tymor nesaf, gan rybuddio y gallai peidio â datgelu cynlluniau arwain at sefyllfa debyg i’r hyn ddigwyddodd ym mis Medi.

Mae UCU yn dweud eu bod nhw wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Prydain i beidio â symud darlithoedd ar-lein ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.