Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Gorsaf Radio Ddigidol neu RSL y Flwyddyn yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2020.

Ar draws yr holl gategorïau, fe ddaeth 460 o gynigion gan 90 o orsafoedd i law, ac mae Ysbyty Gwynedd wedi cyrraedd rhestr fer o bump o orsafoedd yn eu categori.

Maen nhw’n cael eu cydnabod am eu gwaith wrth ddarlledu i gleifion, eu teuluoedd a’u ffrindiau a’r gymuned, yn ogystal â’u gwaith wrth godi arian ar gyfer yr orsaf a’r elusen Awyr Las, sef elusen swyddogol yr ysbyty.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd, sydd wedi bod yn gwasanaethu’r gymuned leol ers dros 40 mlynedd, yn cael ei staffio’n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ac yn dod â cherddoriaeth, gwybodaeth, ceisiadau a negeseuon gan ffrindiau a pherthnasau yn uniongyrchol gwlau ein cleifion.

Bydd seremoni rithwir yn cael ei chynal ar Ragfyr 12.

Ymateb

“Rwyf wrth fy modd fod Radio Ysbyty Gwynedd wedi cyrraedd rhestr fer y wobr hon,” meddai Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd.

“Mae cael ein cydnabod yn genedlaethol yn dyst i waith anhygoel ein gwirfoddolwyr.

“Rydym wedi parhau i ddarparu ein gwasanaeth pwysig i’r cleifion.

“Rydym hefyd wedi trefnu dwy ŵyl gerddoriaeth codi arian lwyddiannus ar-lein i sicrhau dyfodol ein gwasanaeth.

“Rydym yn darparu gwasanaeth pwysig yn ein cymuned a chysylltiad pwysig trwy gerddoriaeth, ceisiadau a chysegriadau.

“Rwyf mor falch o’n cyflawniadau yn ystod yr amser ansicr hwn ac ni allaf ddiolch digon i’r tîm am eu holl waith.”

Yn ôl Martin Steers, cadeirydd y gwobrau, “mae eleni wedi bod yn her i’r sector, gyda chloi stiwdio, colli incwm a digwyddiadau wedi’u canslo”.

“Fodd bynnag, mae gorsafoedd radio cymunedol wedi ymateb trwy gynyddu ymgysylltiad â’u cymunedau lleol, gyda mwy o raglenni a chyflwynwyr arloesol ledled y wlad yn darlledu gartref.

“Mae’n amlwg gweld o hyn, fod cyflwynwyr angerddol, gwirfoddolwyr, a staff yno mewn gwirionedd ar gyfer eu cynulleidfaoedd. Mae’r gorsafoedd radio lleol hyn wrth galon eu cymunedau.”