Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, yn galw ar aelodau’r blaid i “aros yn ffyddiog” y daw annibyniaeth i’r Alban.

Ynghyd ag Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, mae e’n un o’r siaradwyr yng nghynhadledd rithiol yr SNP heddiw (dydd Sul, Tachwedd 29).

Ac fe fydd e’n galw am undod yn yr Alban wrth anelu am y nod o ddod yn wlad annibynnol, gan adleisio neges Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban.

Mae disgwyl iddo fe ddweud mai’r nod yw “ethol mwyafrif tros annibyniaeth” i Holyrood y flwyddyn nesaf, gan arwain at refferendwm ar ddyfodol y wlad.

Ffrae

Daw neges Ian Blackford drannoeth ffrae fawr rhwng yr Aelod Seneddol Joanna Cherry a ffyddloniaid y blaid.

Dywedodd mewn cyfweliad â’r Times ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 28) ei bod hi’n bryd rhoi terfyn ar “gwlt yr arweinydd” o fewn y blaid – “boed hynny’n Alex [Salmond] neu Nicola [Sturgeon] neu unrhyw un arall”.

Mae’n galw am ddull “coleg” i drafodaethau ar faterion rhyngwladol ac ar y ffordd ymlaen o ran annibyniaeth.

Dywed y dylid sefydlu gweithgor i drafod annibyniaeth, gan gynnwys ‘Plan B’ pe bai San Steffan yn ceisio atal pleidlais.

‘Annibyniaeth o fewn ein cyrraedd’

Mae disgwyl i Ian Blackford ddweud: “Ein cynllun, ein gwaith a’n ffocws yw ennill mwyafrif tros annibyniaeth yn Holyrood fis Mai nesaf.

“Mae gennym ein hymgeiswyr yn eu lle, mae gennym fomentwm, ac mae gennym arweinydd mae’r wlad yn ymddiried ynddi.

“Rydym oll wedi dod yn bell – ac mae annibyniaeth bellach o fewn ein cyrraedd.

“Ond fel rydym wedi teithio’r holl ffordd gyda’n gilydd, allwn ni ddim ond cwblhau’r daith hon gyda’n gilydd.

“Fy neges i bawb ohonom yw hyn: cadwch eich pennau a chadwch y ffydd.

“Ein Halban ni yw’r Alban newydd i’w hennill – un sy’n decach, yn wyrddach ac yn Ewropeaidd.”

Datganoli

Mae disgwyl i Ian Blackford feirniadu Llywodraeth Prydain ynghylch eu hagwedd at ddatganoli.

Fe fydd yn cyhuddo San Steffan o geisio “osgoi Aelodau Seneddol a gweinidogion yr Alban” wrth drafod Bil y Farchnad Fewnol sydd, yn ôl rhai, yn cipio grym oddi ar y llywodraethau datganoledig.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, bydd y ddeddfwriaeth yn galluogi masnach rydd rhwng pedair gwlad Prydain.

Ond yn ôl Ian Blackford, mae “agenda” Llywodraeth Prydain yn “amlwg”.

“Bydd y Torïaid yn ceisio osgoi aelodau seneddol a gweinidogion Albanaidd sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd yn yr Alban.

“Am wn i, dyna gewch chi gan brif weinidog a gafodd ei ddal yn galw datganoli i’r Alban yn ‘gamgymeriad’ ac yn ‘drychineb’.

“Fel y dywedais i wrth Boris Johnson yn San Steffan, nid camgymeriad wrth siarad oedd e – yn hytrach, fe wnaeth mwgwd y Torïaid lithro.”