Mae Llywodraeth Prydain wedi sicrhau 2m yn rhagor o frechlynnau coronafeirws Moderna sydd yn 95% yn effeithiol.

Mae saith miliwn o’r brechlynnau bellach ar gael, sy’n ddigon ar gyfer 3.5m o bobol yng ngwledydd Prydain.

Dydy’r brechlynnau ddim wedi cael sêl bendith eto, ond gallai gael ei gyflwyno yn y gwanwyn pe bai’n cyrraedd y safon.

Mae lle i gredu y gallai fod yn addas i bobol o bob oedran.

Mae Llywodraeth Prydain wedi sicrhau 100m o’r brechlyn Rhydychen, fydd yn ddigon i frechu trwch y boblogaeth, ac fe allai gael ei gyflwyno o fewn wythnosau pe bai’n cael sêl bendith.

Maen nhw hefyd wedi archebu 40m o frechlynnau Pfizer a BioNTech, sydd hefyd yn 95% yn effeithiol.

Ymateb

Yn ôl Alok Sharma, Ysgrifennydd Busnes San Steffan, “mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i gael hwb i’n portffolio o bosibiliadau brechlyn i sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau bosib i warchod y cyhoedd unwaith welwn ni ddatblygiad”.

“Y Deyrnas Unedig oedd un o’r gwledydd cyntaf yn Ewrop i lofnodi cytundeb gyda Moderna, a dw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu sicrhau 2m yn rhagor o frechlynnau o’u hymgeisydd addawol i’r cyhoedd ym Mhrydain.”