Mae’r actor Dave Prowse, oedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae’r cymeriad Darth Vader yn Star Wars a’r Green Cross Code Man, wedi marw’n 85 oed.
Ac yntau’n hanu o Fryste, doedd cynhyrchwyr y ffilmiau Star Wars ddim yn credu bod ei acen yn addas ar gyfer y cymeriad, a gafodd ei leisio yn y pen draw gan James Earl Jones.
Roedd yn godwr pwysau 6’6″ oedd wedi cynrychioli Lloegr yng Ngemau’r Gymanwlad, ac fe ddaeth yn actor yn ddiweddarach yn ei yrfa, gan dderbyn MBE am ei waith yn chwarae’r Green Cross Code Man, cymeriad oedd yn helpu plant i groesi’r ffordd yn ddiogel.
Cafodd ei ddisgrifio gan ei asiant fel “arwr”.
Mae lle i gredu iddo gael ei weld am y tro cyntaf gan George Lucas, cyfarwyddwr Star Wars, pan oedd yn chwarae cymeriad swyddog diogelwch yn y ffilm A Clockwork Orange, ac fe gafodd e wahoddiad i glyweliad ar gyfer y cymeriadau Darth Vader a Chewbacca.