Yr actores Beverley Callard a’r newyddiadurwraig Victoria Derbyshire yw’r ddwy ddiweddaraf i orfod gadael Castell Gwrych, ar ôl i ganlyniad pleidlais ddiweddaraf gwylwyr y gyfres I’m A Celebrity… Get Me Out of Here! gael ei gyhoeddi neithiwr (nos Lun, Tachwedd 30).

Cawson nhw wybod am yr ymadawiad dwbl yn ystod y rhaglen neithiwr.

Maen nhw’n dilyn Ruthie Henshall, seren y West End, a’r baralympwraig Hollie Arnold, yr unig Gymraes yn y gyfres.

Cafodd y gyfres ei symud o Awstralia i’r castell yn y gogledd eleni oherwydd y coronafeirws.

Ymateb y ddwy

Fe fu ymateb eisoes ar y cyfryngau cymdeithasol i ymadawiadau Beverley Callard a Victoria Derbyshire.

“Fe fu’n bleser llwyr ei gwylio hi’n tynnu ymlaen â’r holl enwogion. Diolch yn fawr i bob un ohonoch chi bleidleisiodd drosti,” meddai Ollie, mab Victoria Derbyshire, wrth drydar o gyfrif ei fam.

Mae cyfrif swyddogol y gyfres wedi ymateb i ymadawiad Beverley Callard, sy’n fwyaf adnabyddus am chwarae’r cymeriad Liz McDonald yn Coronation Street.

“Rydym mor browd o @Beverleycallard – hi fydd brenhines y castell i ni o hyd!” meddai’r neges.