Mae Rhodri Talfan Davies wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Cenhedloedd y BBC.

Mae’r swydd yn dod â chyfrifoldeb dros arwain ar wasanaethu cynulleidfaoedd lleol a chenedlaethol yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Bydd yn atebol i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol Tim Davie ac yn ymuno â’r Pwyllgor Gweithredol, ac yn parhau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Cymru ochr yn ochr â’i swydd newydd.

Bydd cyfarwyddwyr eraill y cenhedloedd – Helen Thomas yn Lloegr, Peter Johnston yng Ngogledd Iwerddon a Steve Carson yn yr Alban – yn atebol i Rhodri Talfan Davies.

“Mae Rhodri wedi bod yn Gyfarwyddwr ar BBC Cymru ers naw mlynedd, mae’n arweinydd penigamp ac fe ddaw â phrofiad golygyddol a strategol helaeth i’w swydd newydd,” meddai Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC.

“Yn ystod ei gyfnod gyda BBC Cymru, mae Rhodri a’i dîm wedi trawsnewid rhaglenni cenedlaethol a  rhwydwaith – gan gynnwys llwyddiannau eang eu hapêl fel Keeping Faith a Hinterland – yn ogystal ag ehangu ein portffolio o wasanaethau cyfrwng Cymraeg.”

Dywed Y Fonesig Elan Closs Stephens, Aelod o Fwrdd y BBC fod “Rhodri yn arweinydd o fri – yn hawdd siarad ag o, yn atebol ac yn gefnogol”.

“Rwy’n falch iawn mai Cyfarwyddwr BBC Cymru bellach yw llais holl genhedloedd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod y cenhedloedd yn chwarae rhan mor ganolog yng ngweledigaeth y Cyfarwyddwr-Cyffredinol Tim Davie ar gyfer y BBC.”

“Wrth fy modd”

“Dwi wrth fy modd o gael fy mhenodi i’r swydd,” meddai Rhodri Talfan Davies.

“Mae ein gwasanaethau ar hyd a lled gwledydd Prydain yn chwarae rhan allweddol ym mywydau pobl ar hyn o bryd – a dwi’n methu aros i gael gweithio gyda’n timau talentog yn y pedair cenedl.”

Bydd yn cychwyn ar ei swydd newydd ar Ionawr 4.