Caerdydd Canolog oedd yr orsaf drenau brysuraf yng Nghymru eleni a hynny er gwaethaf effeithiau Covid-19.

Teithiodd 12.6m o bobol drwy’r orsaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Fodd bynnag, mi oedd gostyngiad o fwy na 263,000 yn nifer y teithwyr o’i gymharu â’r llynedd yn yr orsaf.

Mae ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd hefyd yn dangos mai’r orsaf a gafodd ei defnyddio leiaf yng Nghymru oedd Gorsaf Dinas-y-Bwlch ym Mhowys, gyda dim ond 156 o deithwyr.

Y gorsafoedd â’r mwyaf o deithwyr yng Nghymru yn 2020:

  • Caerdydd Canolog – 12.5m
  • Casnewydd – 2.7m
  • Heol y Frenhines Caerdydd – 2.6m
  • Abertawe – 2m
  • Pen-y-bont ar Ogwr – 1.5m

Effaith Covid-19

Eglurodd Jay Symonds, uwch ddadansoddwr ystadegol y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd fod Covid-19 wedi cael effaith ar faint o deithwyr sy’n defnyddio’r rheilffyrdd yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain.

“Er gwaethaf y gostyngiad dramatig yn nifer y teithwyr tua diwedd mis Mawrth oherwydd Covid-19, Canol Caerdydd yw’r orsaf brysuraf yng Nghymru o hyd,” meddai.

“Gyda’r niferoedd yn aros ar lefelau hanesyddol isel yn ystod 2020, does dim dwywaith y bydd ffigyrau’r flwyddyn nesaf yn edrych yn wahanol iawn.”