Mae’r newyddion fod cwmni Debenhams am gau 124 o siopau yng ngwledydd Prydain yn “newyddion difrifol i Fangor”, yn ôl Hywel Williams, aelod seneddol Arfon, a Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd yn yr ardal.

Mae gan y cwmni dair siop yn y gogledd, gan gynnwys un yng nghanol dinas Bangor, yn ogystal â nifer o siopau yn y de, gan gynnwys Caerfyrddin.

Yn ôl y ddau, mae’r cyhoeddiad “yn tanlinellu’r peryglon sy’n wynebu ein trefi a’n dinasoedd” yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws a’r mesurau iechyd cyhoeddus sydd ar waith ac sy’n “cyfyngu ar gapasiti a galw”.

Bydd Debenhams yn dechrau’r broses o ddirwyn i ben ar ôl i JD Sports gadarnhau na fyddan nhw’n camu i mewn i’w achub, gyda’r cwmni yn nwylo’r gweinyddwyr ers mis Ebrill.

Mae swyddi 12,000 o weithwyr yn y fantol ac mae’n gysylltiedig â sefyllfa Arcadia.

Bydd Debenhams yn parhau i fasnachu mewn siopau ac ar y we am y tro i gwblhau archebion cyfredol.

Mae’r cwmni eisoes wedi torri 6,500 o swyddi oherwydd costau cynyddol, ar ôl mynd i ddwylo’r gweinyddwyr am yr ail waith mewn blwyddyn.

Datganiad

“Byddai colli siop fel Debenhams yn ergyd fawr i unrhyw dref neu ddinas, ond byddai cau siop Bangor yn cael ei deimlo’n galed iawn gan ei bod mewn man canolog ar y stryd fawr,” meddai Hywel Williams a Siân Gwenllian.

“Byddai cau y siop yn gadael bwlch enfawr i’w lenwi yng nghanol y ddinas.

“Bydd y cyhoeddiad hwn yn arbennig o siomedig i’r staff, ac erfynwn ar Debenhams i’w cefnogi ar adeg pan na all ein heconomi leol fforddio ansicrwydd economaidd pellach.

“Heb os, mae effaith Covid-19, gan gynnwys cau siopau adwerthu am gyfnodau hir, wedi cyfrannu at y cyhoeddiad hwn.

“Rwan yn fwy nag erioed, mae angen cefnogaeth frys ar ganol ein trefi a’n dinasoedd gan y llywodraeth i’w helpu i adfer ar ôl Covid.’

“Mae Plaid Cymru wedi cynnig cyfres o fesurau i fynd i’r afael â’r anawsterau sy’n wynebu ein strydoedd mawr a helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd.

“Mae’r rhain yn cynnwys darparu cefnogaeth wedi’i thargedu i fusnesau y tu allan i’r dref i adleoli i leoliadau canolog i helpu i adfywio canol trefi ac ailwampio cyfraddau busnes, gan ddarparu fframwaith rhentu teg i gwmnïau’r stryd fawr.’

“Heb atebion ymarferol a chydnabyddiaeth gan y llywodraeth o ddifrifoldeb y sefyllfa, yna bydd y rhagolygon ar gyfer ein strydoedd mawr yn parhau i fod yn llwm iawn.”