Mae “diffyg rhesymeg” yng nghyfyngiadau coronafeirws Rhagfyr yng Nghymru, yn ôl Adam Price.

Mae arweinydd Plaid Cymru’n galw am “gyfaddawd synhwyrol” i helpu’r diwydiant lletygarwch ac i adfer ffydd y cyhoedd, gan ddweud bod ymateb y sector a dryswch y cyhoedd “yn ddealladwy”.

Mae’n galw hefyd am roi’r hawl i gaffis, bariau a bwytai weini rhywfaint o alcohol i nifer gyfyngedig o bobol tan 7 o’r gloch y nos, gyda lletygarwch yn cau am 8 o’r gloch, ac i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r dystiolaeth arweiniodd at y cyfyngiadau diweddaraf.

Ymhellach, mae’n galw am ailystyried y penderfyniad i beidio â rhoi cefnogaeth ariannol bellach i sectorau sy’n cynnwys gyrwyr tacsis, gweithwyr hunangyflogedig a’r sector economi adloniant.

‘Dim gwobrau, ond cosbau i gyd’

“Mae ymateb y sector lletygarwch i’r cyfyngiadau diweddaraf hyn yn ddealladwy,” meddai Adam Price.

“Mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn cael ei herydu oherwydd nad yw pobol yn deall y rhesymeg.

“Sut all pedwar o bobol o aelwydydd gwahanol gael coffi gyda’i gilydd fod yn yn fwy diogel na dau berson o’r un aelwyd yn cael peint?

“Tra bod lle i groesawu’r pecyn cymorth ariannol, fydd hyn ddim yn dod yn agos i fod yn ddigonol i nifer sy’n dibynnu ar dymor y Nadolig i wneud swmp o’u helw blynyddol.

“Mae nifer o sectorau unwaith eto’n cael eu torri i ffwrdd o gael unrhyw gefnogaeth ariannol (e.e. gyrwyr tacsis, y rhai hunangyflogedig, gweithwyr yn y sector economi adloniant).

“Dyma’r bom sy’n tician o ran argyfwng diweithdra ar y gorwel a rhaid i Lywodraeth Cymru ymdrin â’r peth ar frys.

“Ar hyn o bryd, mae hyn yn teimlo fel dim gwobrau a chosbau i gyd ac yn benodol yn gosb i ardaloedd ymlediad Covid-19 isel.

“Mae angen cyfaddawd synhwyrol lle mae gan gaffis, bariau a bwytai yr hawl i weini nifer gyfyngedig o ddiodydd i griw cyfyngedig o bobol tan yn ddiweddarach.

“Byddai cyfaddawd synhwyrol yn galluogi i alcohol gael ei weini tan 7 o’r gloch y nos gyda lletygarwch yn cael aros ar agor tan 8 o’r gloch y nos.

“Ddylai siopau alcohol trwyddedig nac archfarchnadoedd ddim cael gwerthu alcohol ar ôl yr amser hwn i annog pobol i beidio â mynd i gartrefi ei gilydd.

“Rhaid i’r prif weinidog hefyd dalu sylw i alwadau’r sector lletygarwch am gyhoeddi’r dystiolaeth arweiniodd at y cyfyngiadau hyn yn llawn.”