Mae cyn-gaplan Prifysgol Caerdydd yn gwadu ymosod yn anweddus ar ddynes pan oedd e’n gweithio yn y brifddinas.
Cafodd y Parchedig Ddoctor Paul Overend, 53, ei benodi i swydd yn Eglwys Gadeiriol Lincoln yn 2017 lle treuliodd e 14 mis cyn camu o’r neilltu ar ôl cael ei arestio a’i gyhuddo.
Ond mae’r cyhuddiad yn ymwneud â’i gyfnod yn gaplan ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1997.
Aeth yn ei flaen o’r fan honno i Brifysgol John Moores Lerpwl, lle’r oedd yn darlithydd athroniaeth a moeseg.
Mae wedi’i gyhuddo o gydio yn y ddynes a’i chusanu.
Aeth gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw, lle cadarnhaodd ei enw, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni.
Plediodd yn ddieuog i’r cyhuddiad o ymosod yn anweddus.
Bydd gwrandawiad pellach fis Mehefin y flwyddyn nesaf, ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth yn y cyfamser.