Wrth i Gymru wynebu Lloegr yng Nghwpan y Cenhedloedd d (Tachwedd 28) mae bardd Eurig Salisbury’n gobeithio y bydd dwy gerdd a gyfansoddodd ar gyfer gemau’r hydref yn helpu i godi calonnau cefnogwyr rygbi yn ystod y pandmeig.

Cafodd Eurig Salisbury ei gomisiynu i ysgrifennu’r cerddi Ni ’da chi, bois’ ac ‘Outside, Inside, Centre’ gan gymdeithas adeiladu’r Principality, sy’n brif noddwr Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.

Y nod oedd dangos nad yw’r angerdd a’r ysbryd gwladgarol wedi diflannu er nad yw cefnogwyr yn cael mynychu’r gemau oherwydd cyfyngiadau pandemig y coronafeirws.

Cafodd negeseuon o gefnogaeth gan gefnogwyr a chlybiau rygbi llawr gwlad ar draws Cymru eu casglu a’u defnyddio fel sail ar gyfer y cerddi Cymraeg a Saesneg.

Dywedodd Eurig Salisbury, sy’n ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Ymddangosodd y gair ‘cartref’ dro ar ôl tro mewn negeseuon gan glybiau rygbi a daeth yn hollbwysig i’r gerdd.

“Mae’r tân hwnnw yn ein calonnau, yr angerdd yna a’r teimlad o fod yn un, yn dal i fodoli yn ein cartrefi, yn ein hystafelloedd byw ac ym mhob cadair freichiau.

“Daeth yn amlwg imi’n go gynnar fod llawer iawn o ddelweddau addas o fyd rygbi yn y ddwy iaith fysen i’n gallu’u defnyddio mewn ffyrdd newydd yng nghyd-destun y pandemig – y gair ‘blindsided’, er enghraifft, i ddisgrifio’r sioc annisgwyl, a’r syniad wedyn o’r sgrym fel delwedd wych ar gyfer pobl yn dod at ei gilydd i gydweithio, a’u breichiau fel plethiadau llwy garu.

“A’r peth mwyaf chwithig wedyn, y ffaith fod rygbi’n gêm gwbl gorfforol lle mae cyffwrdd yn hanfodol, a ninnau i gyd yn gorfod osgoi hynny mor aml y dyddiau hyn.

“Yn hynny o beth, ro’n i’n teimlo bod gwylio rygbi, a chyd-fyw’r ergydion a’r chwarae o’n cartrefi, yn gallu lliniaru rhywfaint ar y rhwystredigaeth yna.”

Mae’r cerddi wedi’u cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol ar ffurf dwy ffilm fer, gyda’r geiriau’n cael eu llefaru gan y gantores a’r ddarllenwraig Cerys Matthews.