Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, mewn perygl o fod wedi gwaethygu tensiynau gyda Tsieina ar ôl gorchymyn cwmnïau telathrebu i gael gwared ar offer Huawei o rwydweithiau 5G erbyn 2027.

Daw’r penderfyniad, fydd yn oedi datblygiad technoleg 5G o hyd at dair blynedd ac ychwanegu biliynau i’r gost, ar ôl i arbenigwyr y Deyrnas Unedig rybuddio bod sancsiynau cyfyngol yr Unol Daleithiau yn golygu nad oedd modd sicrhau diogelwch offer Huawei.

Mae Huawei wedi dweud eu bod yn siomedig â’r penderfyniad gan honni ei fod wedi ei wneud am resymau gwleidyddol.

Cafodd y cwmni’r hawl i chwarae rôl gyfyngedig yn y rhwydwaith 5G fis Ionawr, ac mae ffynonellau yn Downing Street yn dweud bod y sancsiynau gafodd eu cyflwyno gan yr Unol Daleithiau fis Mai “wedi newid pethau”.

Mae’r cyfyngiadau gafodd eu cyflwyno gan weinyddiaeth Donald Trump yn cael gwared ar fynediad Huawei i gynnyrch sydd wedi cael ei adeiladu ar sail technegol semiconductor yr Unol Daleithiau.

Oedi o ddwy neu dair blynedd a chost ychwanegol o £2bn

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden wedi dweud y gallai’r penderfyniad arwain at oedi cyflwyno 5G am ddwy neu dair blynedd yn ogystal ag ychwanegu £2bn i’r gost.

Daw’r penderfyniad mewn cyfnod lle mae perthynas y Deyrnas Unedig â Bejing eisoes o dan bwysau yn sgil cyflwyno’r gyfraith ar ddiogelwch cenedlaethol yn Hong Kong.

Dywed Oliver Dowden fod gan y Llywodraeth “olwg glir ynghylch Tsieina” ond eu bod nhw eisiau “perthynas fodern ac aeddfed” ar sail parch.

Mae cadeirydd y Pwyllgor Dethol Amddiffyn Tobias Ellwood wedi dweud y dylai’r Llywodraeth “ddisgwyl ymateb gan Tsieina.”

Ac mae’r cyn-aelod cabinet David Jones wedi tynnu sylw at rybudd gan lysgennad Tsieina i’r Deyrnas Unedig Liu Xiaoming, y byddai “canlyniadau” pe byddai Huawei yn cael ei wahardd.

Ond wfftiodd Oliver Dowden y rhybudd, gan ddweud nad yw’r Llywodraeth “yn ofni sylwadau gan unrhyw wlad arall.”

Polisi diogelwch y Deyrnas Unedig yn cael ei arwain gan yr Unol Daleithiau?

Mae Chi Onwurah, llefarydd digidol, gwyddoniaeth a thechnoleg a llefarydd Huawei yn y Deyrnas Unedig wedi cwestiynu a ydi polisi diogelwch y Deyrnas Unedig bellach yn cael ei arwain gan yr Unol Daleithiau.

“Mae hi wedi bod yn glir ers tro bod yna gwestiynau difrifol ynghylch a ddylai Huawei gael rheoli adrannau mawr o’n rhwydweithiau telegyfathrebu, ond gwrthododd y Llywodraeth wynebu’r realiti hwnnw,” meddai.

“Yn anffodus, mae ein dyfodol yn y Deyrnas Unedig troi’n fater gwleidyddol, mae hyn yn ymwneud a pholisi masnachu’r Unol Daleithiau yn hytrach na diogelwch,” meddai Ed Brewster, llefarydd Deyrnas Unedig cwmni Huawei.