Mae Tsieina wedi rhybuddio Prydain rhag ymyrryd â Hong Kong gan ddweud eu bod yn “cadw’r hawl i gymryd mesurau cyfatebol”.
Daw hyn wedi i’r Prif Weinidog Boris Johnson gyhoeddi ei fod yn bwriadu cynnig yr hawl i setlo yn y Deyrnas Unedig i dair miliwn o ddinasyddion Hong Kong.
Ddydd Mercher (Gorffennaf 1) dywedodd y Prif Weinidog bod Beijing wedi torri cytundeb rhwng Tsieina a Phrydain drwy gyflwyno cyfraith ddadleuol – y gyfraith diogelwch cenedlaethol.
Dywedodd Boris Johnson wrth Aelodau Seneddol ei fod yn bwriadu cyflwyno ffordd newydd i bobol Hong Kong sydd â statws Dinesydd Prydeinig Tramor wneud ceisiadau i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig ac yna gwneud cais am ddinasyddiaeth.
Wrth ymateb, dywedodd llysgenhadaeth Tsieina yn y Deyrnas Unedig y byddai hyn yn mynd yn erbyn “cyfraith ryngwladol a rheolau sylfaenol perthnasau rhyngwladol”.
Dywed mewn datganiad: “Rydym yn gwrthwynebu hyn yn gryf ac yn cadw’r hawl i gymryd mesurau cyfatebol.
“Rydym yn annog Prydain i edrych ar gyfraith diogelwch cenedlaethol Hong Kong yn wrthrychol a theg, i barchu safbwynt a gofidion Tsieina, ac i beidio ag ymyrryd â Hong Kong mewn unrhyw ffordd”.
Cafodd llysgennad Tsieina Liu Xiaoming ei alw i’r Swyddfa Dramor ddoe er mwyn cynnal cyfarfod gyda’r is-ysgrifennydd Syr Simon McDonald.
Dywedodd Syr Simon McDonald fod y gyfraith yn mynd yn erbyn y cytundeb gafodd ei arwyddo yn 1985 gyda’r bwriad o esmwytho’r trawsnewidiad pan gafodd Hong Kong ei ddychwelyd i Tsieina yn 1997.
Y gyfraith newydd
Mae’r gyfraith newydd yn gwahardd gweithgarwch sy’n gwrthwynebu’r llywodraeth, yn ogystal ag ymyrraeth o dramor mewn materion mewnol.
Cafodd y gyfraith ei defnyddio am y tro cyntaf ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 1) i arestio unigolyn oedd yn cludo baner yn galw am annibyniaeth.
Ac ers hynny mae oddeutu 370 o bobol wedi cael eu harestio, gan gynnwys dyn 24 oed gafodd ei gyhuddo o drywanu heddwas yn ystod protestiadau cyn cael ei ddal ar awyren oedd ar ei ffordd i Lundain.
Dim ffordd o orfodi Tsieina
Mae’r Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab wedi cydnabod na fyddai Prydain yn gallu gorfodi Tsieina i roi caniatâd i ddinasyddion Hong Kong symud i Brydain.
Ym mis Chwefror, roedd oddeutu 350,000 o bobol oedd â phasbort Dinesydd Prydeinig Tramor yno, tra bod y Llywodraeth yn amcangyfrif bod tua 2.9 miliwn o bobol â statws Dinesydd Prydeinig Tramor yn byw yn Hong Kong.
Fodd bynnag, “dim ond canran” o’r rhain fyddai’n debygol o geisio dod i’r Deyrnas Unedig meddai Dominic Raab.
Aeth ymlaen i ddweud nad oes llawer y gall Prydain wneud os bydd Tsieina yn ceisio atal pobol â statws Dinesydd Prydeinig Tramor rhag gadael Hong Kong.
“Yn y bôn mae’n rhaid i ni fod yn onest na fyddem yn gallu gorfodi Tsieina i adael pobol i ddod i’r Deyrnas Unedig,” meddai.