Mae Boris Johnson wedi cynnig yr hawl i setlo yn y Deyrnas Unedig i dair miliwn o ddinasyddion Hong Kong ar ôl cyhuddo Tsieina o dorri cytundeb gyda Phrydain.
Dydd Mercher (Gorffennaf 1) dywedodd y Prif Weinidog bod Beijing wedi torri cytundeb rhwng Tsieina a Phrydain drwy gyflwyno cyfraith ddadleuol.
Mae’r gyfraith newydd yn gwahardd gweithgarwch sy’n gwrthwynebu’r llywodraeth, yn ogystal ag ymyrraeth o dramor mewn materion mewnol.
Cafodd y gyfraith ei defnyddio am y tro cyntaf heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 1) i arestio unigolyn oedd yn cludo baner yn galw am annibyniaeth.
Ac ers hynny mae 70 yn rhagor wedi cael eu harestio, ar y diwrnod sy’n nodi 23 mlynedd ers i Hong Kong gael ei ddychwelyd i Tsieina.
Cyd-ddatganiad 1985
Dywed Boris Johnson fod hyn yn mynd yn erbyn y Sino-British Joint Declaration o 1985 gafodd ei arwyddo gyda’r bwriad o esmwytho’r trawsnewidiad pan gafodd Hong Kong ei ddychwelyd i Tsieina yn 1997.
Mae’r cyd-ddatganiad yn gytundeb gyfreithiol sy’n nodi sut y caiff agweddau penodol ar ryddid a statws Hong Kong eu diogelu am yr hanner can mlynedd cyntaf ar ôl i sforaniaeth drosglwyddo i Tsieina.
Wrth ymateb, dywedodd Boris Johnson wrth Aelodau Seneddol y bydd yn cyflwyno ffordd newydd i bobol Hong Kong sydd â statws Dinesydd Prydeinig Tramor wneud ceisiadau i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig ac yna gwneud cais am ddinasyddiaeth.
Dywed Stryd Downing y bydd pobol yn gymwys i deithio i’r Deyrnas Unedig yn syth wrth i fanylion y cynllun gael eu gorffen “yn yr wythnosau nesaf”.
“Fe wnaethom ni hi’n glir wrth Tsieina y buasem yn cyflwyno ffordd newydd i’r sawl sydd â statws Dinesydd Prydeinig Tramor i symud i’r Deyrnas Unedig, gyda’r gallu i fyw a gweithio yma ac yna i wneud cais am ddinasyddiaeth, a dyna yn union fyddwn ni yn ei wneud,” meddai Boris Johnson.