Mae meddyg yn uned frys Ysbyty Athrofaol Caerdydd wedi croesawu cynllun “ffonio’n gyntaf” Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Bydd cleifion sydd angen gofal brys yn cael eu hasesu a’u hanfon i’r lle mwyaf priodol am driniaeth, yn ôl y bwrdd iechyd.

Ond maen nhw’n dweud y dylid ffonio 999 o hyd mewn argyfwng, gan gynnwys cleifion sy’n cael strôc, trafferthion anadlu neu drawiad ar y galon.

Yn ôl y bwrdd iechyd, fyddai hi ddim yn diogel dychwelyd i’r hen drefn oedd yn ei lle cyn pandemig y coronafeirws.

Helpu cleifion a staff

Yn ôl Dr Katja Empson, bydd y drefn newydd o ffonio cyn mynd i’r uned yn helpu cleifion a staff wrth leihau faint o bobol sydd mewn ystafelloedd aros a chadw at reolau pellter y coronafeirws.

“Rydym yn anelu i roi’r drefn hon ar waith ar ddiwedd mis Gorffennaf ond byddwn yn diweddaru’n staff, cleifion a’r cyhoedd yn nes at yr amser,” meddai.

“Mae’n bwysig pwysleisio na fydd hyn yn disodli 999.

“Os oes gennych chi argyfwng sy’n peryglu bywyd, megis symptomau strôc, trafferthion anadlu neu drawiad ar y galon, yna mae’n rhaid i chi ffonio 999 o hyd.

“Fydd y broses hon ddim yn newid.”

Cafodd y mater ei grybwyll gan Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, yn y gynhadledd ddyddiol heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 14), pan ddywedodd fod y prif weinidog Mark Drakeford yn “edrych yn ofalus” ar y sefyllfa.