Mae llanc 15 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa am 18 mis am ei ran mewn ffrwgwd ger sinema yn Birmingham ar ôl iddyn nhw ddangos ffilm dreisgar.
Roedd gan y llanc gyllell yn ei feddiant, ac fe’i hanelodd at ben rhywun arall yn ystod y ffrwgwd yn y ddinas ar Dachwedd 23.
Clywodd y llys fod y sinema wedi gorfod cau yn dilyn y digwyddiad, a bod Birmingham yn un o nifer o ddinasoedd a welodd gryn ymladd yn sgil y ffilm Blue Story, oedd wedi cael ei thynnu oddi ar sgriniau sawl cwmni sinema wedi hynny.
Yr erlyniad
Wrth gyflwyno dadleuon yr erlyniad, dywedodd cyfreithiwr fod y ffrae wedi dechrau rhwng dwy garfan o bobol ifanc, gyda mwy na 100 o bobol 12 i 16 oed yn ei chanol.
Bu’n rhaid i swyddogion diogelwch eu gwahanu, meddai.
Dyna pryd y gwnaeth y diffynnydd anelu’r gyllell at ben rhywun arall.
Fe ddigwyddodd yng ngolau dydd a gerbron pobol oedd yn mynd heibio ar y pryd.
Yr amddiffyniad
Dywedodd cyfreithiwr ar ran y diffynnydd iddo gael ei ddylanwadu gan bobol eraill i gymryd rhan yn y ffrwgwd.
Dywedodd fod y llanc, oedd yn 14 oed ar y pryd, wedi bwriadu brolio o flaen ei ffrindiau.
Plediodd yn euog i geisio niweidio ac i gyhuddiad o fod â chyllell yn ei feddiant.
Mae’r llanc wedi’i wahardd rhag myn i sinema Star City am ddwy flynedd, ac fe fydd y gyllell yn cael ei dinistrio.