Mae dau arbenigwr o’r Grŵp Cyfathrebu COVID Cymru (WCCG) wedi galw am ymchwiliad annibynnol i’r ymdriniaeth o’r coronafeirws yng Nghymru.

Mewn darn barn ar wefan Nation.Cymru, dywed Yr Athro Anthony Campbell o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd a Brian Morgan o Ysgol Rheoli Prifysgol Fetropolitan Caerdydd fod angen ymchwiliad brys er mwyn i’r “gwersi sy’n cael eu dysgu gael eu gweithredu cyn twf posibl mewn achosion yn y gaeaf”.

Bydd angen ymchwiliad gwrthrychol o sut mae awdurdodau wedi delio â’r pandemig er mwyn gallu ymateb i dwf mewn achosion yn y dyfodol, meddai’r darn barn.

Mae’r ddau arbenigwr yn glir nad ydyn nhw’n awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi perfformio’n wael yn ystod y pandemig, ond nad yw disgwyl dwy flynedd neu fwy am ymchwiliad y Deyrnas Unedig “ddim yn opsiwn” a bod “cyflymder yn hanfodol.”

Cwestiynau’r ymchwiliad

Bydd y Grŵp Cyfathrebu COVID Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i gynnwys gwyddonwyr a firolegwyr ac arbenigwyr busnes, addysg a llywodraeth leol.

Ymysg y cwestiynau y byddan nhw’n awyddus i’w gweld yn cael eu gofyn mewn ymchwiliad annibynnol mae:

  • Pam nad ydym wedi gallu cael system profi ac olrhain gwell, a pham fod cymaint o gapasiti yn y Gwasanaeth Iechyd, y prifysgolion a’r sector breifat wedi cael eu tan-ddefnyddio?
  • Pam fod graddfeydd marwolaeth COVID wedi bod yn wahanol yng Nghymru ac ar draws gwledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig?
  • Pa mor eang yw’r cyngor mae Llywodraeth Cymru wedi ei dderbyn?
  • Oes yna unrhyw ddatganoli ar bwerau gwneud penderfyniadau wedi bod yng Nghymru – megis defnydd gwell o gapasiti iechyd cyhoeddus lleol?
  • Oes yna achos dros gynyddu capasiti mewn adrannau iechyd cyhoeddus lleol yn gyflym gan fod rhaid i system profi ac olrhain effeithiol weithredu’n lleol?

Dywed y Grŵp Cyfathrebu COVID Cymru mai eu hamcan yw annog y llywodraeth i symud oddi wrth ddatrysiadau “generig” megis gwarchae tuag at ddulliau “wedi’i dargedu” a mwy lleol.