Mae dau gyffurgi o’r Barri wedi cael eu carcharu am gyflenwi cocên a heroin.

Cafodd Rhys Watkins, 33, a Rachael Heywood, 39, eu stopio gan yr heddlu ar hap wrth deithio yn y dref nos Sul, Mai 31.

Cawson nhw eu harestio a’u cyhuddo o ymwneud â chyflenwi cocên a heroin, ac fe blediodd y ddau yn euog i’r cyhuddiadau yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener (Gorffennaf 10).

Cafodd Rhys Watkins ei garcharu am dair blynedd ac wyth mis, tra bod Rachael Heywood wedi’i charcharu am bum mlynedd a saith mis.

Dywed yr heddlu y dylai’r gosb fod yn rhybudd i bobol y byddan nhw’n cael eu harestio a’u dwyn gerbron llys os ydyn nhw’n troseddu yn y gymuned.