Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ennill tair o wobrau yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni.
Cipion nhw’r wobr aur yn y categori Ôl-raddedig am y drydedd flwyddyn yn olynol, gan ddod i’r brig hefyd yn y categori Rhyngwladol, ar ôl dwy flynedd yn yr ail safle.
Roedden nhw’n ail ar gyfer y brif wobr, sef Prifysgol y Flwyddyn.
Mae’r gwobrau’n ddathliad blynyddol o brifysgolion a sefydliadau addysg uwch gorau’r Deyrnas Unedig, ac maen nhw’n cael eu rhoi ar sail dros 41,000 o adolygiadau gan fyfyrwyr ar draws 150 o sefydliadau.
‘Ymfalchïo
“Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyriwr rhagorol, safon addysgu uchel, ac ansawdd bywyd rhagorol, ac rydym wrth ein bodd bod hyn wedi’i gydnabod gan yr adolygiadau a’r adborth diweddaraf a gasglwyd gan ein myfyrwyr gan dîm Whatuni,” meddai Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF 2019) diweddaraf, Aberystwyth oedd y brifysgol orau yng Nghymru a Lloegr, ac yn ail yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr.
Yn ogystal â’i llwyddiant yn yr ACF, derbyniodd Aberystwyth Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA) a chafodd ei henwi yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd Dysgu canllaw prifysgolion The Times and Sunday Times Good University Guide yn 2018 a 2019.