Mae cynghorydd sir yng Ngheinewydd yng Ngheredigion yn dweud bod y trigolion yno eisiau ei “lynsio”.

Mae’r ymateb gan drigolion Ceinewydd i gau strydoedd yn sgil cyfyngiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru wedi bod yn chwyrn ac yn ffyrnig ar brydiau, meddai Dan Potter wrth golwg360.

Dros y penwythnos a dechrau’r wythnos hon, mae cyfyngiadau Llywodraeth Cymru wedi cael eu llacio’n raddol gyda llety gwyliau yn cael ailagor o ddydd Sadwrn (Gorffennaf 11) a thafarndai yn cael ailagor ers ddoe (dydd Llun Gorffennaf 13).

Ond mae rhai trefi a busnesau yng Ngheredigion yn wynebu her newydd yn wyneb cyfyngiadau ychwanegol, wrth i’r Cyngor Sir gau nifer o strydoedd yn ogystal â phrif strydoedd i geir yn Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd.

“Dwi’n teimlo fel bod y pentref eisiau fy lynsio i, dyna’r unig ffordd alla i ei ddisgrifio fe,” meddai Dan Potter.

“Dwi erioed wedi cael cymaint o ofid gan y pentref. Daeth y wybodaeth allan brynhawn dydd Iau ar ôl y cyfarfod, ac mae’n siŵr fy mod i wedi derbyn tua 70 o alwadau ffôn nos Iau a tua 150 o alwadau sarhaus ddydd Gwener gan fusnesau.

“Mae’r holl beth yn siambls a bod yn onest, ond maen nhw’n gwneud hyn i ddiogelu pobol felly mae’n rhaid i ni gadw ato.”

Treialu

Dywedodd ei fod yn credu y bydd yn rhaid iddyn nhw barhau â’r system newydd am o leiaf 21 diwrnod fel sydd wedi ei nodi’n barod er mwyn gweld sut y bydd yn gweithio, ond efallai y bydd yn rhaid i’r Cyngor Sir edrych arni eto ymhen tair wythnos.

“Ond tan hynny, mae’n rhaid i ni dreulio’r 21 diwrnod yna mor waraidd a chwrtais â phosibl. Ar ddiwedd y dydd, os ydi pobl yn ymddwyn yn ffyrnig tuag at ei gilydd, mae’n gwneud i bobol ymateb yn amddiffynnol.”

‘Does dim ennill’

Mae trigolion Ceinewydd yn croesawu ailagor busnesau gwyliau’r ardal gan fod busnes yn gyffredinol yno angen twristiaeth, meddai Dan Potter, ac er ei fod yn cydnabod eu bod wedi derbyn grantiau dros y cyfnod yma, dydy e ddim yn teimlo eu bod nhw’n fawr iawn o’u cymharu â’r colledion maen nhw wedi eu hwynebu dros y misoedd diwethaf.

Ond mae angen i ymwelwyr a pherchnogion Ceinewydd ddod i arfer â threfniadau newydd bellach wrth geisio mynd a dod o’u llety gwyliau.

“Mewn sefyllfa fel hyn does dim ennill,” ychwanega.

“Ers y diwrnod cyntaf, rydyn ni wedi bod yn sicrhau diogelwch trigolion Ceinewydd ond bellach, rydyn ni’n gorfod byw gyda’r Covid yma a gwneud y gorau o bethau.

“Fel Cyngor Sir, mae’n rhaid gwisgo’r het sydd yn diogelu busnesau, ond hefyd edrych ar ôl y trigolion lleol.”

Er hyn i gyd, mae’n cydnabod efallai y byddai’r ymateb wedi bod ychydig yn wahanol ac efallai yn llai ffyrnig pe bai trigolion wedi cael mwy o rybudd ymlaen llaw am y newidiadau i’r strydoedd, a phe bai mwy o drafod wedi bod gyda busnesau lleol.

Mae’n teimlo pe baen nhw fel cynghorwyr wedi cael amser i drafod gyda’r busnesau, efallai y bydden nhw wedi llwyddo i ddod i drefniant fyddai’n gweithio i bawb.