Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi cyhoeddi na fydd rhaid i bobol yng Nghymru dalu treth ar brynu tai sy’n costio llai na £250,000 tan Fawrth 31, 2021.

Yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru i’r wasg, dywedodd Rebecca Evans fod y “cyfnod gwyliau” ar dalu Treth Trafodiadau Tir wedi ei gyflwyno ar gyfer “pobol sy’n wynebu her ariannol yn sgil pandemig y coronafeirws”.

Fodd bynnag, ni fydd y seibiant ar gael i bobol sy’n prynu ail gartref yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog fod hwn yn “gynnig hael iawn” i bobol Cymru, lle mae cost cyfartalog tŷ oddeutu £160,000, tra bod cost cyfartalog tŷ cyntaf o gwmpas £139,000.

“Rydym yn helpu i sicrhau nad yw 80% o’r bobol sy’n prynu eu prif gartref yma yng Nghymru yn talu unrhyw dreth o gwbl,” meddai.

“Rwy’n credu bod hwn gynnig hael iawn, ac rydym yn ceisio sicrhau nad dim ond pobol sy’n prynu eu tŷ cyntaf sy’n elwa ond pobol sydd eisiau symud i dŷ mwy hefyd, oherwydd bod y teulu yn tyfu, er enghraifft.”

Daw hyn ar ôl i’r canghellor Rishi Sunak gyhoeddi seibiant treth ar y dreth stamp yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn natganiad yr haf y Canghellor.

“Mae’n rhaid i ni ystyried effaith mesurau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar bobol, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau yng Nghymru,” meddai Rebecca Evans.

Rheolau ar wisgo mygydau i gael ei “fonitro”

Yn y cyfamser, dywed y Gweinidog Cyllid y bydd rheolau ar wisgo mygydau yn cael eu “monitro yn barhaus”.

Ond hyd yma, does dim newid ers cyhoeddiad y Prif Weinidog Mark Drakeford ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 13), pan ddywedodd y byddai gwisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn orfodol o Orffennaf 27.

“Rydyn ni yn cael trafodaethau cyson gyda’r sector manwerthu er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried eu safbwynt nhw,” meddai Rebecca Evans.

“Rydym hefyd mewn cyswllt cyson gydag awdurdodau lleol lle mae mwy o atyniadau twristaidd a busnesau twristaidd er mwyn sicrhau bod unrhyw benderfyniad rydym yn ei wneud yn ystyried pryderon sy’n bodoli’n lleol”.

Aeth y gweinidog yn ei blaen i ddweud bod annog cwsmeriaid i wisgo mygydau “yn bendant yn un o’r pethau” y gall pobol sy’n rhedeg busnesau bach ei wneud os nad yw hi’n bosib cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol yn eu siopau.

Hanner biliwn wedi ei ychwanegu i’r Gronfa Cadernid Economaidd

Mae hanner biliwn o bunnoedd wedi cael ei ychwanegu i’r Gronfa Cadernid Economaidd, yn ôl Rebecca Evans.

Daw hyn fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i adfer yr economi yn sgil effaith pandemig y coronafeirws.

“Mae’n rhaid i ni weithio tuag at sefydlogi ein heconomi cyn symud wedyn tuag at ei adfer,” meddai.