Mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi rhybuddio bod “caledi ar y gorwel”, ond y bydd neb yn cael eu gadael “heb obaith” wrth iddo gyhoeddi pecyn argyfwng o fesurau i ymdopi ag effaith economaidd y coronaferiws.

Dywedodd wrth Aelodau Seneddol y bydd y Llywodraeth yn gwneud “popeth allwn ni” i gadw pobol mewn gwaith.

Bydd ei “gynllun swyddi” yn helpu i warchod bywoliaeth pobol wedi i’r economi gyfyngu 25% mewn dau fis, meddai’r Canghellor.

“Rydym wedi gweithredu er mwyn gwarchod ein heconomi,” meddai Rishi Sunak.

“Ond mae pobol yn gofidio am golli eu swyddi, am ddiweithdra yn codi. Nid ydym yn mynd i dderbyn hyn.

“Mae angen i bobol wybod bod, er bod caledi ar y gorwel, bydd neb yn cael eu gadael heb obaith”.

Mae’r mesurau a gyhoeddwyd, gyd gan Rishi Sunak yn cynnwys:

  • Cynllun ‘Kickstart‘ gwerth £2 biliwn wedi’i ariannu gan y trethdalwr ar gyfer lleoliadau gwaith i bobol ifanc rhwng 16-24 oed sydd ar Gredyd Cymhwysol neud mewn risg o ddiweithdra tymor hir (Lloegr yn unig)
  • Pecyn gwyrdd gwerth £3 biliwn, gyda grantiau i berchnogion tai ac adeiladau cyhoeddus i wella effeithlonrwydd ynni.
  • Rhaglen £111 miliwn ar gyfer cyfleoedd hyfforddi di-dâl fydd yn cyfuno hyfforddiant â phrofiad gwaith.
  • Torri TAW o 20% i 5% ar gyfer y sectorau lletygarwch a thwristiaeth o 15 Gorffennaf tan 12 Ionawr, sy’n doriad treth gwerth hyd at £4 biliwn.
  • Codi’r trothwy ar y doll stamp ar unwaith i £500,000 tan fis Mawrth 31 2021 (Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig)
  • “Bonws cadw swyddi” o £1,000 fesul gweithiwr i annog penaethiaid i gadw staff

Y Goblygiadau i Gymru

Ni fydd pob mesur yn gymwys i Gymru – er enghraifft, mae toll stamp wedi ei ddatganoli (fe’l gelwir nawr yn ‘Treth Trafodiadau Tir Cymru’) – felly dim ond yn Lloegr a Gogledd Iwerddon bydd y newid hwn yn dod i rym.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud y bydd cyfanswm o £500 miliwn yn ychwanegol yn dod i Gymru yn sgil y datganiad.

Annog busnesau i gadw gweithwyr mewn swyddi

Daw datganiad y Canghellor yn dilyn rhybuddion gan y Sefydliad Cydweithrediad Economaidd a Datblygu (OECD) y gallai graddfa diweithdra’r Deyrnas Unedig godi at 14.8%, gyda mwy o swyddi’n cael eu colli nag yn ystod yr 1930au.

Dywed Rishi Sunak y bydd y “bonws cadw swyddi” yn annog cyflogwyr i gadw staff sydd ar ffyrlo.

Bydd busnesau yn derbyn £1,000 am bob aelod o staff maent yn dychwelyd a’u cadw mewn gwaith tan fis Ionawr.

“Os yw cyflogwyr yn dychwelyd y naw miliwn o bobol sydd ar ffyrlo i’r gwaith, bydd hwn yn bolisi £9 biliwn i gadw pobol mewn gwaith,” meddai Rishi Sunak.

“Mae ein neges i fusnesau yn glir: os byddwch chi’n cefnogi’ch gweithwyr, byddwn ni’n eich cefnogi chi”.

Dywed ei fod yn codi’r trothwy ar y doll stamp i £500,000 tan fis Mawrth 31 2021 er mwyn “cataleiddio’r” farchnad dai.

Bydd y newid, sy’n cael ei gyflwyno ar unwaith, yn golygu bod naw ymhob 10 person sy’n prynu prif dŷ eleni ddim y talu toll stamp o gwbl, meddai Rishi Sunak.

Ceidwadwyr y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn Lloegr

Mae Ceidwadwyr yn Senedd Cymru eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn yr un modd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Gweinidog Cyllid Cysgodol y Ceidwadwyr yn y Senedd, Nick Ramsay, y dylai Llywodraeth Cymru weithredu ar y doll stamp-yng Nghymru i agor y farchnad dai a helpu i hybu adferiad economaidd Cymru ar ôl Covid-19.

“Bydd cyhoeddiad y Canghellor heddiw ar y doll stamp yn gweld teuluoedd ledled Lloegr yn arbed miloedd o bunnoedd mewn treth – gan roi hwb ariannol iddynt a chael yr economi i danio ar bob silindr. Mae angen i Lywodraeth Llafur Cymru weithredu yn awr i roi’r un hwb i deuluoedd yma.”

Ac wrth sôn am gyhoeddiad y Canghellor am gynllun Kickstart Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dywedodd Russell George ASC, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr dros yr Economi:

“Byddwn yn annog Llywodraeth Lafur Cymru i ddefnyddio’r miliynau o bunnoedd mewn cyllid ychwanegol, o’r cynllun Hyfforddeiaeth  gwerth £111 miliwn yn Lloegr, i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd sy’n arwain at swyddi sgiliau uchel, tra’n sicrhau bod gennym y sgiliau sydd eu hangen i gael yr economi i danio eto.”