Yn dilyn datganiad yr haf Canghellor y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak, heddiw, mae cyn-ddarlithydd ym maes yr economi ym Mhrifysgol Abertawe wedi dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru yr arian i gynnal cynlluniau o’r fath – a bod “pob peth ddim yn gweithio ym mhob man”.

Yn ôl Dr John Ball, nid yw’r cynlluniau hyn wedi eu hystyried yn ddigon manwl ac felly nid yw’n hollol siŵr a fyddan nhw wir yn llwyddiannus.

Mae Cymru, meddai Dr John Ball, wedi cynnal rhaglenni cymhorthdal swyddi tebyg dros y blynyddoedd, megis Twf Swyddi Cymru.

“Mae wedi ei brofi” meddai, “os nad oes rhywun yn eu goruchwylio’n fanwl mae perygl mawr iddyn nhw gael eu camddefnyddio”.

Y broblem bennaf yn ôl Dr John Ball yw nad oes gan Gymru y cyllid i wneud hyn, ac er y dylai Cymru weld £500 miliwn ychwanegol yn sgil datganiad y Canghellor, does gan Gymru ddim y “pwerau i ymateb yn y ffordd y dylai.”

Dim cymhariaeth

Problem arall gyda chyhoeddi cynlluniau o’r fath, meddai Dr John Ball, yw eu bod yn cael eu gosod fel blanced ar draws y Deyrnas Unedig i gyd.

“Dyw hyn ddim yn cydnabod rhywbeth mae nifer fawr o economyddion yn ei gydnabod, sef nad oes y fath beth ag ‘Economi Brydeinig’” meddai.

“Ellwch chi ddim cymharu economi Llundain gyda economi Llwydlo, ac ellwch chi ddim hyd yn oed cymharu economi Caerfyrddin gydag economi Caerdydd.

“Rydw i’n meddwl fod hwn yn ffactor gwahaniaethol hynod o bwysig mewn polisi economaidd a’r ffordd mae’r Llywodraeth yn ymateb.

“Mae yna ddisgwyliad y bydd popeth yn gweithio ym mhob man, ond os ydych chi’n gwrando’n fanwl ar beth ddywedodd e (Rishi Sunak), y rhai sydd am elwa o hyn yw Lloegr.”

Lletygarwch

Ar ochr gadarnhaol, credai fod y cynlluniau ar gyfer y sector lletygarwch yn “wreiddiol” ac y byddai’n ddiddorol iawn gweld yr effaith fydd hyn yn ei gael ar y diwydiant lletygarwch.

“Mae’n gynllun, mewn rhyw ffordd, sydd yn eithaf dyfeisgar, ond rydw i’n cwestiynu eto sut yn union mae am weithio, yn bennaf  oherwydd y biwrocratiaeth sydd ynghlwm ag e.”