Nid yw gwisgo mwgwd yn “fwled hud” o ran atal lledaeniad y coronafeirws, meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai Llywodraeth Cymru yn cadw golwg ar y canllawiau ar wisgo mygydau yn gyhoeddus.

Nid ydynt yn orfodol yng Nghymru, ond maent yn cael eu hargymell mewn mannau fel trafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd Mr Drakeford wrth gyfarfod llawn y Senedd: “[Byddwn yn] parhau i adolygu’r mater a derbyn cyngor y rhai sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu’r cyngor hwnnw i ni.

“Os yw’r cyngor yn newid, yna fe fydd ein sefyllfa yng Nghymru yn newid hefyd.

“Nid yw gwisgo [gorchudd wyneb] ynddo’i hun yn fwled hud sy’n atal pobl rhag contractio neu wasgaru’r coronafeirws.

“Mae ein Prif Swyddog Meddygol ni bob amser wedi bod â phryder, ac mae’n bryder a rennir mewn rhannau eraill o’r byd, y bydd pobl, pan yn gwisgo [gorchudd wyneb], eu bod nhw’n ymddwyn mewn ffyrdd na fydden nhw [fel arall…] ac yn ymddwyn mewn ffyrdd mwy peryglus hefyd.

“Anfanteision yn ogystal â manteision”

“Mae cred, drwy wisgo gorchudd wyneb ei bod rhywsut yn iawn i beidio â ymbellhau’n gymdeithasol, er enghraifft, neu beidio â chymryd gofal o ran sut rydych yn ei roi ymlaen neu’n ei dynnu i ffwrdd, heb osgoi cyffwrdd â’ch wyneb – oherwydd gwyddom mai dyna un o’r ffyrdd y mae’r firws yn fwyaf tebygol o gael ei ledaenu.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni roi sylw i’r ffaith bod yna anfanteision posibl yn ogystal â manteision.

“Dyna pam rydyn ni’n adolygu’n barhaus ac os bydd y sefyllfa’n newid yna fe fydd safbwynt Llywodraeth Cymru yn newid hefyd.”

Dywedodd Caroline Jones, aelod Plaid Brexit dros Orllewin De Cymru, wrth y Prif Weinidog:

“Rydym hefyd yn gwybod y gall gorchuddion wyneb helpu i ddal microddiferion ac atal lledaeniad coronafeirws,”.

“Felly, pam fod Cymru yn un o’r unig wledydd yn y byd nad yw’n [cyflwyno’r] defnydd o orchuddion wyneb mewn lleoliadau [penodol]?

“Hoffwn i weld gorchuddion wyneb yn orfodol ym mhob lleoliad cyhoeddus.”

Galwodd yr Aelod Ceidwadol newydd, Laura Anne Jones, sydd wedi dychwelyd i Fae Caerdydd yn dilyn marwolaeth ddiweddar Mohammad Asghar, am “adolygiad brys” o’r canllawiau a dywedodd ei bod yn chwerthinllyd ac yn ddryslyd cael gwahanol bolisïau yng Nghymru a Lloegr pan fo rhai’n croesi’r ffin yn rheolaidd.