Mae Mohammad Asghar, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, wedi marw.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty fore ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 16) ar ôl i’r Gwasanaeth Ambiwlans gael eu galw.

Roedd e’n 74 oed, ac wedi cynrychioli De-ddwyrain Cymru ers 13 o flynyddoedd.

Roedd e’n cael ei adnabod wrth y ffugenw ‘Oscar’, a fe oedd yr Aelod Cynulliad cyntaf o gefndir croenddu ac ethnig lleiafrifol (BAME) i gael ei ethol i’r Cynulliad.

Bywyd a gyrfa

Cafodd Mohammad Asghar ei eni yn Peshawar, oedd yn rhan o India ar y pryd, yn 1945.

Fe oedd y cynghorydd Mwslimaidd cyntaf yng Nghymru, wrth gael ei ethol yn aelod o Gyngor Casnewydd.

Cafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad rhanbarthol dros Blaid Cymru yn 2007, a hynny ar ôl cyfnodau’n aelod o’r Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur.

Fe symudodd at y Ceidwadwyr yn y Cynulliad yn 2009, yr Aelod Cynulliad cyntaf i “groesi’r llawr” yn y Senedd.

Cafodd ei enwi’n Wleidydd Mwslimaidd y Flwyddyn yn y Gwobrau Mwslimaidd Prydeinig yn 2014 a 2015.

Teyrngedau

“Mae hyn yn ergyd drom,” meddai Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Twitter.

“Dw i’n sicr y bydd pawb yn ymuno â fi wrth ddanfon fy nghydymdeimlad i deulu @MohammadAsghar, yn enwedig ei wraig Firdaus a’i ferch Natasha, yr oedd e’n caru’r ddwy ohonyn nhw’n fawr iawn, ar adeg eu colled drasig.”

Yn ôl Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, mae “ei golli yn newyddion ofnadwy”.

“Bydd yn cael ei gofio’n annwyl a hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad â theulu, ffrindiau ac etholwyr Mohammad,” meddai.

“Fel cynghorydd Mwslimaidd cyntaf a’r Aelod cyntaf o’r Senedd o dras ethnig lleiafrifol, roedd Mohammad Asghar yn ffigwr eithriadol o arwyddocaol yng ngwleidyddiaeth Cymru ac mae e wedi cyfrannu cymaint at ei gymuned a’r wlad ers ymgartrefu yma’n ddyn ifanc.”

Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, “roedd Mohammad yn ddyn angerddol nad oedd fyth wedi gadael i unrhyw beth ei ddal e’n ôl”.

Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, a Llywydd y Senedd, Elin Jones, hefyd wedi talu teyrnged iddo.

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, hefyd wedi cyhoeddi teyrnged ddwyieithog iddo.