Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu cyhoeddiad y bydd pob myfyriwr yn y brifysgol sy’n dewis astudio o leiaf 40 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn derbyn ysgoloriaeth o £1,500 dros gyfnod o dair blynedd.

Daw hyn yn sgil y cyhoeddiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eu bod yn ymestyn y Cynllun Ysgoloriaeth Cymhelliant i gynnwys pob myfyriwr fydd yn dechrau yn y brifysgol ym mis Medi sy’n dewis astudio o leiaf 40 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fel arfer, mae’r Coleg yn cynnig ysgoloriaeth i hyd at 200 o fyfyrwyr bob blwyddyn ond maen nhw wedi penderfynu ymestyn y cynllun ar gyfer pob myfyriwr cymwys yn sgil pandemig y coronafeirws.

Dywed y Coleg eu bod yn gobeithio bod y cymhelliad ariannol yn cefnogi mwy o siaradwyr Cymraeg i ddewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd hyn yn ychwanegol i’r cymorth sydd eisoes yn cael ei gynnig gan Brifysgol Bangor.

‘Mwy yn astudio trwy’r Gymraeg nag yn unman arall’

“Astudir mwy o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor nag yn unman arall yng Nghymru a bellach, gellir astudio elfennau o bob maes academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg yma – o fodiwl unigol hyd at radd gyfan,” meddai’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor.

“Oherwydd fod cymaint yn astudio cyfran helaeth o’u cwrs yn Gymraeg ym Mangor nag yn unman arall, mae cymuned fywiog a gweithgar dros ben i’r myfyrwyr yma hefyd, ac mae hynny yn gwneud Bangor yn le delfrydol i astudio.”

Mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Mae’n newyddion gwych bod y Coleg yn ehangu yn sylweddol, nifer yr ysgoloriaethau i fyfyrwyr ar gyfer mis Medi, gan gynnwys israddedigion Addysg Gychwynnol Athrawon a Chymraeg,” meddai.

“Rydym angen llawer rhagor o athrawon hyderus dwyieithog i ddiwallu’r twf mewn addysg Gymraeg ac i gefnogi’r cwricwlwm newydd o 2022 ymlaen.”