Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arestio dyn 35 oed mewn cysylltiad â graffiti hiliol a gafodd ei baentio ar eiddo ym Mhenygroes ger Caernarfon.

Gwnaed y graffiti ar ddrws garej wedi’i leoli ar y stryd fawr am 2yb ddydd Sadwrn diwethaf (Mehefin 13).

Fe bostiodd Margaret Ogunbanwo, sy’n rhedeg ei busnes Maggie’s Exotic Foods o gegin hen dafarn y Red Lion, lun o’r graffiti ar ei chartref ym Mhenygroes ar Facebook a galw’r heddlu.

Cymuned leol yn glanhau’r graffiti

Yn fuan wedi’r digwyddiad, daeth pobol leol ynghyd i lanhau’r graffiti hiliol oddi ar wal y Red Lion.

Dywedodd Margaret Ogunbanwo fod yr ymateb wedi bod yn rhyfeddol, a bod y cynnydd mewn archebion gan gwsmeriaid o bob cwr o’r wlad bron â’i “lleddfu”.

“Rydym ni wedi cael llawer o gefnogaeth gan y gymuned leol – cardiau, blodau, cariad, a dagrau,” meddai wrth DyffrynNantlle360.

“Mae rhai pobol wedi annog pobol eraill i gefnogi fy musnes. Mae wedi bod yn dipyn o beth.

“Rhaid i mi ddiolch i ogledd Cymru – a’r ffordd maen nhw’n trin busnesau bach – am rywfaint o fy llwyddiant.

“Rydym ni, y busnesau bach, yn derbyn cefnogaeth anhygoel.

“Dw i wedi cael cymaint o gyfleoedd go iawn i fod yn berson busnes yma. Felly mae Penygroes yn bwysig iawn i mi.

“Dw i’n creu cynnyrch Affricanaidd unigryw yng ngogledd Cymru. Mae [Penygroes] yn rhan annatod o beth dw i’n ei wneud.”

Cefndir Maggie’s Exotic Foods

Cafodd Margaret Ogunbanwo ei magu yn Nigeria, a sefydlodd ei busnes, Maggie’s Exotic Foods, yn 1997 tra’n byw yn Essex.

Ysbrydolwyd y busnes gan ei hangerdd am ei threftadaeth Affricanaidd, a’i chariad at fwyd a choginio.

Mae’r cwmni yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch cartref, cynhwysion egsotig, gan gynnwys cymysgeddau sbeis, sawsiau a phastau.

Symudodd Margaret Ogunbanwo a’i theulu i Benygroes yn 2007.

Dechreuodd werthu bwyd Affricanaidd mewn marchnadoedd ffermwyr lleol ac yn dilyn cefnogaeth ymgynghorol ac ariannol gan Busnes Cymru, cafodd ei hysbrydoli i agor caffi.

Pan symudodd y teulu i Benygroes aeth hi ati i ddysgu’r iaith Gymraeg gyda Popeth Cymraeg gan wneud rhaglen goginio o’r enw Galwch Acw ar y wefan.

“Rwyf yn condemnio [y weithred] yn llwyr. Roedd hon yn weithred gwbl annerbyniol.  Does dim lle i unigolion sy’n coleddu syniadau hiliol yng Nghymru,” meddai Ioan Talfryn, prif weithredwr Popeth Cymraeg.”