Mae dau rybudd tywydd melyn arall wedi’u cyhoeddi ar gyfer Cymru gan fod stormydd yn bygwth glaw trwm dros y wlad fory (dydd Mercher, Mehefin 17).

Daw’r rhybudd cyntaf i rym, gan ddechrau am 1.30 brynhawn heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 16), wrth i’r glaw a’r stormydd sy’n symud yn araf ddechrau.

Mae’r rhan fwyaf o Gymru yn llygad ffynnon y stormydd hyn, gyda’r rhybudd yn ymestyn o Gaerfyrddin a Chaerdydd yn y de i Lanelwy a Wrecsam yn y Gogledd.

Mae disgwyl i 25 i 35mm o law gwympo mewn dim ond awr mewn llawer o ardaloedd a gallai rhai lleoliadau gael hyd at 50mm o law mewn dwy neu dair awr.

Mae’r glaw trwm yn debygol o achosi llifogydd i rai cartrefi a busnesau ac mae perygl o ddifrod i adeiladau gan fellt, cesair a gwyntoedd cryfion hefyd.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gall llifogydd sydyn arwain at amodau gyrru anodd, ac mae perygl i rai cymunedau gael eu torri i ffwrdd gan ffyrdd sydd wedi gorlifo.

Dylai’r rheiny sy’n byw yn yr ardal dan rybudd hefyd fod yn barod i golli cyflenwad trydan ac amharu ar wasanaethau eraill.

Fe fydd y gwaethaf o’r cawodydd a’r stormydd mellt yng Nghymru yn tawelu yn araf, ond  bydd y rhybudd yn aros yn ei le tan 6 fore Mercher, Mehefin 17.

Ail rybudd melyn

Bydd Cymru’n cael seibiant o’r storm bore fory, cyn i rybudd tywydd arall ddod i rym am 12 o’r gloch a bydd hyn unwaith eto’n effeithio ar y rhan fwyaf o’r wlad.

Gan fod tua 25mm o law yn bosibl unwaith eto, gydag ychydig o ardaloedd yn cael 50mm, bydd llifogydd a tharfu ar deithio yn parhau i fygwth cymunedau.

Yn ystod stormydd dydd Mercher, mae’r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio am berygl i fywyd oherwydd llifogydd fydd yn llifo’n gyflym neu’n ddwfn.

Bydd y rhybudd yn dod i ben am 9 o’r gloch y nos wrth i stormydd golli eu grym yn ystod oriau’r nos.

Er nad ydyn nhw’n rhagweld unrhyw rybuddion tywydd ychwanegol ar gyfer Cymru y tu hwnt i nos Fercher, bydd glaw a stormydd mellt yn parhau i dargedu’r wlad drwy ddiwedd yr wythnos.

Ar draws y wlad, bydd cawodydd yn dal i darfu ar deithio, llifogydd a’r potensial o golli cyflenwadau trydan wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen.